Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Aros yn ddiogel wrth fwynhau twrnamaint Euro 2016

Postiwyd

Mae Euro 2016 UEFA yn dechrau yn Ffrainc dydd Gwener ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio i’r cyhoedd i feddwl am ddiogelwch wrth fwynhau’r gemau.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân:"Rydym eisiau i’n cymuned leol gofio Euro 2016 am y rhesymau iawn, ac rydym yn annog pobl i ystyried diogelwch pan maent yn mwynhau’r twrnamaint cyffrous hwn.

 

"Coginio yw achos pennaf tanau damweiniol yn y cartref – ac mae canran uchel o’r tanau hyn yn cael eu hachosi gan bobl sydd dan ddylanwad alcohol.

 

"Mae alcohol yn effeithio synnwyr cyffredin a gallu ac felly rydym yn apelio i gefnogwyr pêl droed i osgoi coginio ar ôl yfed a meddwl am y gwahanol bethau a all dynnu sylw ac arwain at dân, marwolaeth, anaf yn y cartref neu wrthdrawiad ar y ffordd.”

 

Mae Stuart yn rhoi’r cyngor canlynol:

Peidiwch ag yfed a choginio – cefnogwch eich siop prydau parod leol, archebwch fwyd neu gofynnwch i rywun goginio bwyd i chi.

Sicrhewch bod pethau fel baneri neu deganau gwynt Euro 2016 ddigon pell i ffwrdd o ffynonellau gwres.

  • Peidiwch ag yfed a gyrru – cerddwch , gofynnwch am lifft, neu defnyddiwch dacsi. Os ydych mewn grŵp trefnwch bod un yn gyrru a chymryd eich tro i yrru.

Sicrhewch nad yw baneri ar gerbydau wedi eu gosod fel y gallant dynnu sylw’r gyrrwr neu ei rwystro ef neu unrhyw yrrwr arall ar y ffordd rhag gweld yn iawn.

 

Mae cyngor pellach ar ddiogelwch tân a ffordd ar gael yma

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen