Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwmni lleol yn cyfrannu cymhorthion hyfforddiant i gynorthwyo gwaith partneriaeth yng Nghanolfan Adnoddau’r Gwasanaethau Ambiwlans a Thân

Postiwyd

Mae cwmni lleol sy’n cynhyrchu modelau wedi cyfrannu offer i’r criwiau tân ac achub ac ambiwlans yn y Ganolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân newydd yn Wrecsam.

Mae Ruth Lee Ltd, wedi ei leoli mewn gweithdy bach yng Nghorwen, wedi bod yn cynhyrchu modelau pren hyfforddi am fwy na 25 o flynyddoedd. Cychwynnodd y busnes teuluol ar ôl i Wasanaeth Tân ac Achub Glannau Merswy gysylltu gyda’r wniadwraig Ruth, i holi ynglŷn â’r posibilrwydd o wneud modelau brethyn i’w defnyddio fel cymhorthion hyfforddiant ar gyfer criwiau tân. Cafodd y modelau dderbyniad da iawn, ac yn fuan roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn archebu eitemau gan y cwmni lleol.

Heddiw, mae Ruth yn dal i weithio yn y busnes ond maent hefyd yn cyflogi 21 o bobl eraill ac yn allforio i wledydd megis Awstralia a Chanada.

Maent wedi cyfrannu offer gwerth mwy na £2000 i’r staff yn y Ganolfan Adnoddau, gan gynnwys y modelau a blwch sain sy’n creu effeithiau sain i’w defnyddio mewn sefyllfa hyfforddi.

Esboniodd merch Ruth, Susan Edwards, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, pam roeddynt eisiau gwneud y cyfraniad: “Rydym wedi gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am nifer o flynyddoedd ac roedd yn gyffro mawr pan glywsom am y datblygiad newydd hwn gyda chriwiau o’r gwasanaeth tân ac achub ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gweithio gyda’i gilydd o un adeilad,” meddai.

“Rydym wrth ein boddau y medrwn wneud y cyfraniad hwn i gynorthwyo criwiau gyda’u hyfforddiant, gan helpu i gadw ein cymunedau lleol mor ddiogel ag y bo modd.”

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Gweithrediadau ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Hoffem ddiolch i Ruth Lee Ltd am eu cyfraniad caredig, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan staff o’r ddwy gyfundrefn mewn senarios hyfforddi ac ymarferion.

“Mae’n wych gweld cyfundrefnau allanol yn cydnabod pwysigrwydd gwaith partneriaeth, yn rhannu adnoddau ac yn hyfforddi ar y cyd i roddi'r lefel gwasanaeth uchaf posibl ar gyfer ein cymunedau.”

Ychwanegodd Karl Hughes, Rheolwr Ardal Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Ruth Lee Ltd am y cyfraniad, a fydd yn galluogi i’n criwiau feithrin technegau proffesiynol a rhoi’r gofal gorau posibl i’n cleifion, 24 awr y dydd, mewn unrhyw sefyllfa.

“Mae rhannu’r adnoddau gwerthfawr hyn gyda’n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân yn ffordd wych arall o gryfhau’r berthynas a gwella’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i bobl Wrecsam a’r ardal o gwmpas.”

 

         

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen