Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Canhwyllau – rhybudd ar ôl digwyddiad yn Rhosnesni

Postiwyd

 

 

Mae Uwch Swyddog Tân yn apelio i drigolion i gymryd gofal gyda chanhwyllau a fflamau noeth yn y cyfnod hyd at y Nadolig ar ôl tân yn Rhosnesni neithiwr.

 

Galwyd dau griw i eiddo ar Hawkstone Way, Rhosnesni am 17.22 o’r gloch neithiwr, dydd Iau 8fed Rhagfyr.

 

Roedd cannwyll wedi ei gadael ar gownter y gegin, a wnaeth i’r larymau mwg seinio.

 

Galwodd cymydog 999 a hysbysu’r gwasanaeth tân ac achub.

 

Achosodd y tân ddifrod mwg 100% i’r gegin.

 

Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn yn dangos peryglon canhwyllau sy’n cael eu gadael mewn ystafell a pha mor gyflym y gall tân afael.

 

“Mae canhwyllau’n bethau cyffredin mewn llawer o gartrefi, yn enwedig dros gyfnod y Nadolog – ond mae’n bwysig cofio nad rhywbeth addurniadol yn unig yw cannwyll. O gael ei gadael gall fflam noeth achosi distryw.

 

“Er eu bod yn edrych yn ddeniadol, mae canhwyllau yn fflamau noeth o hyd ac felly mae angen cymryd gofal ychwanegol wrth eu defnyddio. Opsiwn arall yw defnyddio cannwyll fach sy’n gweithio â batri, sy’n ddigon rhad, yn hytrach na chael fflam go iawn. Mae’r canhwyllau hyn yr un mor effeithiol o ran creu awyrgylch ond yn llawer mwy diogel na chanhwyllau arferol. Hefyd, mae’n syniad da cadw tortsh a batris sbâr i’w defnyddio rhag ofn y bydd y pŵer yn mynd.”

 

Mae Paul yn cynghori trigolion sy’n defnyddio canhwyllau go iawn i ddilyn y cyngor isod:

  • Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau mewn cynhwysydd priodol, ar wyneb gwastad a digon pell o ddeunyddiau a allai fynd ar dân – megis llenni

 

  • Ni ddylid gadael plant nac anifeiliaid anwes ar eu pennau eu hunain gyda chanhwyllau wedi eu cynnau

 

  • Peidiwch byth â gadael cannwyll ar ôl ei goleuo. Diffoddwch nhw os ydych chi’n gadael yr ystafell a gwnewch y siŵr eu bod wedi eu diffodd yn iawn cyn mynd i’r gwely

 

  • Cadwch y pwll o wêr yn glir rhag darnau o’r wic, matsis a deunydd arall bob amser

 

  • Llosgwch ganhwyllau mewn ystafell sydd wedi ei hawyru’n dda, ond dylid osgoi drafftiau neu gerrynt awyr – bydd hyn yn helpu i rwystro llosgi cyflym neu anwastad, creu huddug a diferu gormodol

 

  • Torrwch y wic i ¼ modfedd bob tro cyn llosgi. Gall wic sy’n rhy hir neu wedi plygu achosi llosgi anwastad, diferu neu fflachio

 

  • Peidiwch â symud cannwyll ar ôl ei goleuo

 

  • Dilynwch argymhellion y gwneuthurwr ar amser llosgi a defnydd priodol

 

  • Rhoddwch ganhwyllau arogli mewn cynhwysydd sy’n gwrthsefyll gwres, gan fod y canhwyllau hyn wedi eu dylunio i droi’n hylif wrth losgi, er mwyn cynyddu’r arogl

 

  • Peidiwch â llosgi nifer o ganhwyllau yn agos at ei gilydd oherwydd gall hyn achosi’r fflam i neidio

 

  • Defnyddiwch ddiffoddwr neu lwy i roi canhwyllau allan. Mae’n fwy diogel na’u chwythu gan y gall hynny achosi sbarc.

 

Ychwanegodd:

 

“Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae’n hanfodol bod yn barod os yw’r gwaethaf yn digwydd. Gall larwm mwg sy’n gweithio roi amser hanfodol i chi adael yr adeilad, aros allan a galw 999. Cadwch eich hun a’ch anwyliaid yn ddiogel trwy brofi’r larwm mwg yn rheolaidd a chynllunio ac ymarfer llwybr dianc.”

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen