Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwmnïau tacsi yn helpu i rannu’r neges ‘Peidiwch ag yfed a choginio!’ dros y Nadolig

Postiwyd

 

 

Mae cwmnïau tacsi yng Nghonwy yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru dros gyfnod y Nadolig i helpu i rannu negeseuon ymhlith eu cwsmeriaid sydd  â’r gallu i arbed bywydau.

 

Mae Castle cabs, Conwy ac Alliance Taxi, Llandudno wedi cytuno i gynnwys y neges ‘Cadwch yn ddiogel! Peidiwch â choginio ar ôl noson allan!’ yn yr holl negeseuon testun y maent yn eu hanfon a rhannu poteli dŵr sydd hefyd yn hybu’r neges gyda phobl yn ystod eu siwrne adref ar ôl bod yn dathlu’r Nadolig.  

 

Mae Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn egluro:

 

“Mae tua hanner o’r tanau yn y cartref yr ydym ni’n cael ein galw atynt yn ymwneud â choginio - ac mae nifer o’r rhain yn digwydd wedi i bobl fod yn yfed. Hefyd, mae achosion yn cynyddu dros gyfnod y Nadolig.

 

"Dydy yfed a choginio ddim yn gyfuniad doeth - fe all alcohol achosi i bobl beidio â gweld y peryglon. Mae’r neges hon yn bwysig iawn ar yr adeg yma o’r flwyddyn pan fydd nifer yn yfed alcohol wrth ddathlu’r ŵyl.

 

“Mae nifer o danau yn digwydd bob blwyddyn oherwydd bod pobl yn penderfynu coginio ar ôl dod adref o’r dafarn. Fy nghyngor i yw byddwch yn ddiogel - paratowch bryd cyn mynd allan erbyn y dowch chi’n ôl neu prynwch tecawê ar y ffordd adref.

 

“Rydym wrth ein bodd ein bod yn cael cyfle i weithio gyda chwmnïau lleol i rannu’r negeseuon hyn, ac edrychwn ymlaen at gael adeiladu ar y berthynas hon dros y flwyddyn newydd a thu hwnt. 

 

“Hoffwn atgoffa trigolion yn ogystal ynglŷn â phwysigrwydd gwneud yn siŵr eich bod wedi eich diogelu rhag y gwaethaf - mae larwm mwg yn declyn hanfodol i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel.  Profwch eich larwm chi drwy bwyso’r botwm ‘profi’ i gadw’ch teulu’n ddiogel.”

 

Bydd yr ymgyrch yn cychwyn nos Wener , 9fed Rhagfyr a bydd yn mynd ymlaen am bythefnos.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen