Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd yn dilyn tri achos o dân yn y cartref dros y penwythnos

Postiwyd

 

 

 

 

 

 

 

Unwaith yn rhagor rydym yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg wedi tri achos o dân yng Ngogledd Cymru dros y penwythnos.

 

Cafodd criwiau eu galw i Stryd Tomos, Caergybi am 05.19 o’r gloch y bore yma (Dydd Sul 9fed Hydref) yn dilyn adroddiadau o dân. Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty.  

 

Cafodd criwiau eu galw i dân mewn fflat yn Bath Street, y Rhyl am 21.07 o’r gloch nos Sadwrn 8fed Hydref.  

 

Digwyddodd y trydydd tân yn Ffordd Garnedd, Y Felinheli am 08.35 o’r gloch ddydd Sadwrn 8fed Hydref. Mae ymchwiliadau i achos y tanau hyn ar y gweill.

 

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Ynys Môn a Gwynedd: “Mae larymau mwg yn hanfodol er mwyn cael rhybudd cynnal mewn achos o dân.  Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw gosod a chynnal a chadw larymau mwg. Mae’n rhaid eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd drwy brofi’r batri unwaith yr wythnos a’i newid pan fydd angen yn unol â chyfarwyddiau’r gwneuthurwr.

 

Wrth i’r tywydd oeri ac wrth i’r nosweithiau fynd yn hwy mae’n bwysig eich bod yn cadw at y cyngor diogelwch isod i’ch helpu i leihau’r perygl o dân yn y cartref wrth ichi geisio cadw’n gynnes.

  • Cymrwych bwyll ger tanau agored. Defnyddiwch gard tân a gwnewch yn siŵr bod eich simdde yn lân.
  • Cadwch wresogyddion cludadwy ymhell o lenni a dodrefn a pheidiwch byth â’u gorchuddio â dim byd.
  • Rholiwch flancedi trydan pan nad dydych yn eu defnyddio. Peidiwch byth â’u plygu. Peidiwch â’u defnyddio os ydy’r gwifrau yn hen neu wedi treulio.
  • Cadwch ganhwyllau ar eu sefyll, defnyddiwch ddaliwr canhwyllau addas a pheidiwch byth â’u gadael heb neb i gadw llygaid arnynt. Diffoddwch hwy yn llwyr.
  • Os cewch doriad pŵer a bod gennych larymau mwg sydd wedi eu cysylltu i’r prif gyflenwad trydan, gwnewch yn siŵr bod y batri wrth gefn yn gweithio.
  • Mewn achos o dân, ewch allan, arhoswch allan a galwch 999 yn syth.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen