Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Anafiadau Llosgi

Postiwyd

 

Mae anaf llosgi yno am oes. Mae creithiau yn gorfforol ynghyd â seicolegol a gallant gynrychioli her am oes. Mae llawer yn deillio o ddamwain y gellid bod wedi ei rhwystro yn hawdd.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymrwymo i helpu cynyddu ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Anafiadau Llosgi eleni, sy’n digwydd ar 19eg Hydref, 2016.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn cefnogi’n llawn amcanion Diwrnod Ymwybyddiaeth o Anafiadau Llosgi i rwystro anafiadau, yn enwedig i blant a’r henoed.

 

“Nid briwiau corfforol yn unig a achosir gan losgiadau; maent yn medru achosi creithiau emosiynol hefyd: i’r rhai sy’n dioddef y llosgiadau ac i’r sawl sy’n teimlo eu bod yn gyfrifol mewn rhyw ffordd.

 

“Mae’n hanfodol bod oedolion yn ymwybodol o’r peryglon posibl yn eu cartrefi – boed yn degell poeth a sosbenni sydd o fewn cyrraedd i ddwylo bach; tanau a gwresogyddion heb amddiffyniad; neu dŵr y bath yn rhy boeth – a chymryd camau i leihau’r risg i aelodau’r teulu.

 

“Mae teuluoedd o bob cwr o’r wlad wrthi’n paratoi ar gyfer Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt – rwyf yn eich cynghori i wneud yn siŵr eich bod yn prynu gwisgoedd ffansi sydd yn cydymffurfio â’r rheoliadau diogelwch y Calan Gaeaf hwn a’ch bod yn osgoi fflamau agored. Hefyd, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n cael eich anafu yn ystod noson tân gwyllt drwy fynd i arddangosfa sydd wedi cael ei threfnu a pheidiwch â prynu ffyn gwreichion.

 

“Ac os, er gwaethaf eich rhagofalon, bydd y gwaethaf yn digwydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth i’w wneud. OERI’r llosg gyda dŵr tap yn rhedeg, GALW am help a GORCHUDDIO gyda haenen lynu; ac os yw eich dillad ar dân, STOPIWCH, SYRTHIWCH I’R DDAEAR a RHOLIWCH.”

 

Rhai ffeithiau a ffigurau dychrynllyd am losgiadau a sgaldiadau sy’n digwydd bob dydd:

  • Diodydd poethion yw achos mwyaf cyffredin anaf sgaldio mewn plant – ac yna cyffwrdd â chwcerau trydan, teclynnau sythu gwallt, haearn smwddio a rheiddiaduron gwresogi.
  • Mae 288 o blant y mis angen mynd at Wasanaeth Llosgiadau’r GIG ar ôl anaf gyda diodydd poethion (mae’r ffigwr hwn yn ymwneud â’r sgaldiadau mwyaf difrifol – nid yw’n cynnwys y miloedd a welir gan adrannau anafiadau a damweiniau).
  • Mae llosg haul yn achos nodedig o anaf yn y grŵp oedran 5-14 oed.
  • Mewn pobl dros 65 oed, mae’r patrwm anafiadau yn debyg i’r un mewn plant – ond gyda mwy o anafiadau dod i gysylltiad â rheiddiaduron a dŵr yn rhy boeth wrth ymolchi.
  • Y gost ar gyfartaledd i’r GIG mewn perthynas â llosg difrifol yw £168,155 – ond beth yw’r gost i’r unigolyn a’u teulu?
  • Cafodd 5,195 o blant dan 5 oed eu llosgi mor ddrwg roedd angen iddynt ddefnyddio gwasanaeth llosgiadau arbenigol y GIG yn 2014 – mwy na 14 o blant bach bob dydd.
  • Mae sythwyr gwallt yn cyrraedd tymheredd o 220°c a mwy ac maent yn cymryd 40 munud i oeri – mae dros 250 o blant y flwyddyn yn derbyn triniaeth oherwydd eu bod wedi dioddef llosgiadau difrifol ar ôl cyffwrdd ynddynt. 
  • Deilliodd nifer arwyddocaol o anafiadau i oedolion o saim poeth, barbeciw, tanau yn yr ardd a choelcerthi.
  • Mae mwyafrif yr anafiadau, yn enwedig mewn plant a phobl hŷn, yn digwydd rhwng 3 a 6pm.
  • Y lle mwyaf cyffredin ar gyfer anafiadau yw’r cartref, ar gyfer plant (77%) a’r henoed (81%). I oedolion, y man gwaith yw’r lle mwyaf cyffredin.
  • Mae perthynas wedi ei diffinio’n glir rhwng cyfraddau uchel o anafiadau llosgi ac ardaloedd o amddifadiad cymdeithasol.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen