Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân yr Wyddgrug yn codi arian i elusennau lleol

Postiwyd

Daeth elusennau lleol at ei gilydd yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug i dderbyn cyfanswm o £2,000, a godwyd yn ystod arddangosfa flynyddol coelcerth a thân gwyllt ym mis Tachwedd.

 

Derbyniodd Ty Gobaith, Home Start, Daffodils Club a New Life ­gyfraniadau o £500 yr un.

 

Meddai Peter Edwards, ­Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug: "Hoffwn ddiolch i bawb a chwaraeodd ran yn trefnu coelcerth y llynedd - roedd yn ymdrech ar ran y tîm cyfan, gyda phawb yn gweithio i gael digwyddiad rhagorol a gafodd ei fwynhau gan y gymuned gyfan.

 

"Rydym yn falch o weithio gyda thrigolion Gogledd Cymru i'w cadw mor ddiogel ag y bo modd, ac mae gweld yr arian yn mynd yn ôl i'r gymuned yn golygu bod y gwaith trefnu a'r gwaith caled werth chweil.

 

"Ein blaenoriaeth yw cadw ein trigolion yn ddiogel - ac mae mynychu arddangosfeydd wedi eu trefnu yn ffordd dda o aros yn ddiogel yn ystod y tymor tân gwyllt. Yr adeg hon o'r flwyddyn, mae'n bwysig cadw diogelwch tân yn eich meddwl.

 

"Rydym ni yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i holl drigolion Gogledd Cymru, pan fydd aelod o'r Gwasanaeth yn ymweld â'ch cartref i roddi cyngor ar ddiogelwch tân a gosod larymau mwg newydd os oes angen. I gofrestru, ffoniwch 0800 169 1234, ebostiwch cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen