Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân c Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyngor ‘Syml’ ar ddiogelwch tân i fusnesau

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig negeseuon ‘syml’ i fusnesau i’w rhannu gyda staff yn ystod Wythnos Busnesau Diogel Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CFOA), sydd yn digwydd rhwng 7fed -13eg Medi 2015.  

 

Mae’r wythnos wedi ei threfnu dros gyfnod pan fydd nifer o fusnesau yn cyflogi staff tymhorol cyn y Nadolig.  Mae’n bosib  na fydd y recriwtiaid hyn yn derbyn yr un math o hyfforddiant ymwybyddiaeth tân â staff parhaol, ac na fyddant yn ymwybodol o’r camau y dylent eu cymryd i amddiffyn eu hunain, eu cwsmeriaid a’u cydweithwyr. Mae hefyd yn gyfle da i atgoffa staff o bwysigrwydd diogelwch tân.  

 

Y neges am eleni yw ‘Cadwch bethau’n SYML a Diogel’ ac mae’n cynnig y cyngor canlynol:

  • Storiwch stoc yn ddiogel. Cadwch goridorau, grisiau ac allanfeydd yn glir
  • Nodwch bwyntiau galw’r larwm tân fel y gallwch rybuddio eraill
  • Gwnewch yn siŵr bod drysau ynghau er mwyn atal lledaeniad tân
  • Cadwch bethau a all fynd ar dân ymhell oddi wrth bethau a all achosi tân
  • Rhowch wybod i rywun os oes problemau o ran diogelwch tân
  • Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod beth i’w wneud os bydd y larwm mwg yn seinio

 

Mae helpu busnesau i reoli eu risgiau tân ac arbed bywydau a diogelu eu busnesau yn erbyn colledion ariannol a masnachol yn allweddol, yn enwedig yn ystod y cyfnod cystadleuol hwn lle mae twf a chynaladwyedd yn flaenoriaeth. Fe all tân amharu’n sylweddol ar fusnesau – mae’n fwy tebygol y bydd busnes yn goresgyn tân os bydd y risgiau wedi eu nodi ymlaen llaw a’r rhagofalon cywir wedi eu rhoi ar waith i atal tân rhag cynnau yn y lle cyntaf, neu leddfu ei effaith.  

 

Dengys ystadegau bod 2,139 o danau wedi digwydd mewn safleoedd diwydiannol, 5,561 mewn safleoedd masnachol/manwerthu, a 1,898 mewn ysgolion, sefydliadau addysg bellach/uwch ac ysbytai/safleoedd iechyd yn 2013/14.  Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am annog busnesau i wneud yn siŵr bod eu staff yn ymwybodol o’r peryglon tân posib, a beth i’w wneud mewn argyfwng.

 

Meddai Llywydd CFOA, Peter Dartfordd: “Efallai bod y neges ar gyfer Wythnos Busnesau Diogel y DU am eleni yn un SYML, ond mae’n bwysig bod busnesau yn ystyried y risgiau tân yn eu sefydliadau, a’u bod yn gwneud yn siŵr bod eu gweithwyr yn ymwybodol o’r hyn a all achosi tân a’i ganlyniadau. 

 

“Mae’r gwasanaeth tân yn gweithio’n agos gyda busnesau i’w helpu i reoli risgiau tân yn effeithiol, diogelu eu staff, eiddo a stoc-  a’u bywoliaeth o bosib. Cadwch bethau’n syml a chadwch eich busnes yn ddiogel.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen