Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymestyn y bartneriaeth lwyddiannus gyda Chartrefi Conwy

Postiwyd

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mewn partneriaeth â Chartrefi Conwy yn gwneud mwy i atal tanau mewn cartrefi rhent.

 

Lansiwyd cynllun peilot y llynedd ac oherwydd ei fod wedi bod mor llwyddiannus mae wedi ei ymestyn am flwyddyn arall.

 

Mae Cartrefi Conwy yn gymdeithas dai sydd wedi ymrwymo i dyfu a gwella cymunedau drwy fuddsoddi yn nyfodol eu tenantiaid a’u cartrefi – mae bron i draean o’r 3,800 o dai sydd ar gael yn gartrefi i’r henoed neu bobl fregus.  Mae’r cartrefi eraill yn dai un, dwy a thair llofft.

 

Meddai Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Crëwyd y cynllun gyda Chartrefi Conwy er mwyn ariannu Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref gyda’r nod o leihau achosion o danau yn eiddo Cartrefi Conwy.

 

“Cafodd Chad Rogerson  o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei secondio i’r rôl newydd ac mae ei waith wedi mynd o nerth i nerth dros y flwyddyn ddiwethaf.  

 

“Mae rôl Chad yn golygu hybu a chwblhau Archwiliadau Diogelwch Tân i denantiaid Cartrefi Conwy – sydd yn cynnwys nifer o bobl fregus. Drwy ryngweithio gyda phreswylwyr rydym yn cael cyfle i drafod pryderon cyffredinol am ddiogelwch yn y cartref, ac mae’r rhain yn cynnwys llithro, baglu a syrthio, profi larymau mwg a chyngor diogelwch trydanol.

 

“Mae Chad hefyd wedi cael cyfle i adeiladu perthynas gadarn gyda Chydlynwyr Byw yn Annibynnol, Gofalwyr a chydweithwyr Gwasanaeth Cymdogaeth rheng flaen Cartrefi Conwy yn ogystal ag asiantaethau eraill sydd yn cefnogi cymunedau – mae hyn wedi gwella eu gwybodaeth a’u hyder mewn perthynas â pheryglon diogelwch tân.”

 

Meddai Chad: “Rydw i’n mynd i gymunedau i gwrdd â thenantiaid wyneb yn wyneb yn eu cartrefi neu yn ystod digwyddiadau sydd wedi cael eu trefnu, gyda’r pwyslais ar godi ymwybyddiaeth o’r peryglon y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.

 

“Mae’n bwysig ein bod yn ymgysylltu gyda mwy o denantiaid bregus; tenantiaid hŷn, a thenantiaid eraill sydd yn anodd eu cyrraedd mewn lleoliadau gwledig a’r rhai sydd gan broblemau symudedd, anabledd, ddibyniaeth neu anawsterau dysgu. 

 

“Er enghraifft rydw i wedi cymryd rhan yn y sesiynau Passion for Life sydd yn galluogi i bobl hŷn gymryd rheolaeth a nodi’r camau bychan y gallant hwy eu cymryd i wella eu hiechyd a’u lles - gan eu bod yn sesiynau anffurfiol, mae tenantiaid yn hapus i ofyn llawer  o gwestiynau. 

“Mae’n ymwneud â’u hannog i gyflwyno newidiadau bychan megis peidio â gorlwytho socedi trydan, peidio â gadael i wifrau dreulio o gyfarpar, gwneid yn siŵr bod eu larymau mwg yn gweithio a llunio cynllun dianc o dân.”

Meddai Nerys Veldhuizen, Cydlynydd Pobl Hŷn Cartrefi Conwy: “Rydym yn gweithio gyda thenantiaid i hybu iechyd a lles, a diogelwch yn y cartref.  Mae’n hanfodol nad ydy ein tenantiaid hŷn yn gadael i’w hoed eu hatal rhag byw yn annibynnol ac effeithio ar ansawdd eu bywyd.  Mae rôl Chad wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at yr amcan hwn ac rwyf wrth fy modd bod y bartneriaeth wedi cael ei hymestyn.”

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Chad wedi mynychu dros 21 o sgyrsiau a digwyddiadau cymunedol, gan siarad gyda thros 1500 o denantiaid hyd yn hyn. Oherwydd ei fod yn gwisgo lifrai Gwasanaeth Tân ac Achub  Gogledd Cymru, mae modd iddo amlygu difrifoldeb y neges mewn ffordd gyfeillgar, hawdd mynd ato ac mewn dull rhyngweithiol sydd yn hawdd i’w ddeall ac sydd yn tawelu meddyliau.

Mae’r canlyniadau wedi bod yn galonogol. Disgynnodd nifer y tanau yn eiddo Cartrefi Conwy 10% y llynedd. Ni chafwyd yr un tân a oedd yn gysylltiedig ag ysmygu yn 2014 a chafwyd gostyngiad sylweddol mewn tanau coginio.

 

Fe ychwanegodd Gwyn: “Mae’r cynllun ar y cyd wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y misoedd diwethaf, ac rydym wedi sicrhau nawdd am flwyddyn arall. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni wneud gwelliannau ac ategu’r safonau sydd eisoes wedi cael eu rhoi yn eu lle. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn parhau ac y bydd pobl fregus yn parhau i fod yn ddiogel yn eu cartrefi.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen