Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am beryglon ysmygu yn dilyn tân ym Mlaenau Ffestiniog

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu'r peryglon sydd ynghlwm ag ysmygu yn y cartref yn dilyn tân mewn ty ym Mlaenau Ffestiniog ddechrau'r wythnos.

 

Yn fwy na thebyg cafodd y tân ei achosi gan daniwr sigaréts a oedd wedi syrthio'n ddamweiniol wrth i'r preswylydd ysmygu yn y gwely.

 

Mae dyn 70 oed yn dal i fod yn yr ysbyty ar ôl iddo gael ei achub o'r eiddo yn anymwybodol.

 

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei rybudd o dân mewn atig ty teras ar y Stryd Fawr am 02.43o'r gloch Ddydd Llun 18fed Mai.

Anfonwyd criwiau o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog i'r digwyddiad. Roedd dynes 68 mlwydd oed a oedd hefyd yn byw yn yr eiddo wedi cael ei rhybuddio am y tân gan ei larwm mwg a llwyddodd i fynd allan o'r ty i fan diogel. Cafodd driniaeth yn y fan a'r lle gan y Gwasanaeth Ambiwlans.

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu a phibell dro i fynd i mewn i'r ty. Daethant o hyd i'r dyn yn yr atig ar yr ail lawr. Cafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.  

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae'r digwyddiad yn amlygu peryglon peidio â chymryd pwyll wrth ysmygu yn y cartref a sicrhau bod sigaréts yn cael eu diffodd yn llwyr.

 

"Mae'n hanfodol gwneud yn siwr bod  defnyddiau ysmygu yn cael eu diffodd yn llwyr, yn enwedig cyn i chi fynd i'r gwely.

 

"Y ffordd orau i leihau'r perygl yw peidio ag ysmygu yn y ty o gwbl. Mae nifer o danau yn ymwneud ag ysmygu, fel yn yr achos hwn, yn digwydd gyda'r nos pan fydd pobl yn syrthio i gysgu neu'n ysmygu yn y  gwely ac yn rhoi dodrefn neu ffabrig ar dân - y realiti erchyll yw nad ydy rhai pob fyth yn deffro.

 

"Dengys ymchwil bod ysmygwyr yn llai tebygol o gael larymau mwg gweithredol yn eu cartrefi i'w rhybuddio os bydd tân a rhoi cyfle iddynt ddianc.

 

"Os oes gennych chi berthnasau neu ffrindiau sydd yn ysmygu, gwnewch yn siwr eu bod yn ymwybodol o'r peryglon - dilynwch ein cyngor o leihau'r perygl o dân yn y cartref o ganlyniad i ysmygu."

Cyngor gan y gwasanaeth tân ac achub:

 

  • Cymrwch bwyll os ydych wedi blino, neu wedi cymryd unrhyw fath o gyffuriau neu yfed alcohol Mae'n hawdd iawn syrthio i gysgu â sigarét yn llosgi yn eich llaw.
  • Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely - os oes raid i chi orffwys, peidiwch â thanio. Fe allwch bendwmpian a rhoi'r gwely ar dân.
  • Peidiwch byth â gadel sigaréts, sigarau a phibau yn llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt - fe allant syrthio wrth iddynt losgi
  • Prynwch fatsis a thanwyr sydd yn ddiogel rhag plant - pob blwyddyn mae plentyn yn marw o ganlyniad i chwarae gyda thanwyr neu fatsis. Cadwch hwy ymhell o gyrraedd plant.

Defnyddiwch flwch llwch trwm a phwrpasol  na all gael ei daro drosodd yn hawdd iawn ac sydd wedi ei wneud o ddefnydd anhylosg. Gwenwch yn siwr bod y sigarét wedi ei diffodd yn llwyr ar ôl i chi orffen ysmygu.

  • Gwagiwch y lludw i flwch llwch ac nid bin sbwriel - peidiwch â gadael i'r llwch a bonion sigaréts yn y blwch llwch.
  • Gosodwch larymau mwg a'u cynnal a'u cadw - os bydd tân, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i fynd allan. Fe all larymau mwg roi amser i chi fynd allan, aros allan a galw 999. Gallwch brynu larwm mwg sylfaenol am yr un pris â phaced o sigaréts. Neu yn well fyth prynwch larwm mwg sydd gan fatri hi roes neu sydd wedi ei gysylltu i'r prif gyflenwad trydan

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân. Eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd.

 

I gofrestru galwch ein rhif rhadffôn dwyieithog 24 awr o'r dydd ar

0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen