Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar

Postiwyd

 

I  gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar 2015 (4ydd - 8fed Mai 2015), mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ynn atgyfnerthu'r neges ei fod yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim ac offer arbenigol i drigolion trwm eu clyw yn y rhanbarth.

 

Mae bod bron i filiwn o bobl yn y DU methu a chlywed larwm mwg arferol oherwydd anawsterau gyda'u clyw neu oherwydd eu bod yn tynnu eu teclynnau clyw gyda'r nos (amcan gyfrifiad gan yr RNID, 2006).

 

Yn ddiweddar cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei roi ar restr fer ar gyfer Gwobr Action on Hearing Loss oherwydd ei waith i sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch i bawb, a'i fod yn mynd gam ymhellach ar gyfer yr un ym mhob chwech o'r boblogaeth sydd yn fyddar neu'n drwm eu clyw.   Cyhoeddir yr enillwyr ar 15 Mai.

 

Fel rhan o Wythnos  Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am atgoffa trigolion trwm eu lyw ynglyn â phwysigrwydd gosod y larymau mwg cywir yn y cartref a'u profi yn rheolaidd.

 

Mae llu o larymau arbenigol wedi cael eu creu ar gyfer pobl trwm eu clyw, sydd yn cynnwys padiau crynu a  goleuadau strobio - fe all y larymau  hyn achub bywydau, drwy rybuddio pobl o dân yn y cartref hyd yn oed os ydynt wedi tynnu eu teclynnau clyw.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae'n hanfodol bod gan bobl sydd yn fyddar neu'n drwm eu clyw'r offer synhwyro mwg cywir i amddiffyn eu hunain yn y cartref - a'u bod yn eu profi'n rheolaidd i wneud yn siwr eu bod yn gweithio.

 

"Mae nifer o bobl sydd gan nam ar eu clyw mewn perygl mawr o ddioddef tân yn y cartref oni bai bod ganddynt yr offer synhwyro cywir. Mae larymau mwg arbenigol yn rhoi cyfle i bobl fynd allan mewn achos o dân, ac mae'n hanfodol bod pobl fyddar neu drwm eu clyw yn cael gosod y larymau mwg cywir yn eu cartref i'w cadw'n ddiogel.

 

"Os oes gennych chi amheuaeth ynghyn â'r math o larwm sydd gennych chi cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim.  Rydym yma i'ch helpu i wneud yn siwr bod eich cartref mor ddiogel â phosibl rhag tân.

"I gofrestru am archwiliad, ffoniwch 0800 169 1234 24 awr o'r dydd, anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda HFSC neu cysylltwch â ni drwy fynd i  www.larwmmwgamddim.co.uk"

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen