Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyhoeddi rhybudd diogelwch yn dilyn llu o danau eithin

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn annog pobl ifanc i aros a meddwl am ganlyniadau tanau glaswellt yn dilyn llu o ddigwyddiadau'r wythnos diwethaf a oedd yn draul ar ein hadnoddau prin.

Cafodd criwiau eu galw i dân eithin mawr ym Mlaenau Ffestiniog neithiwr a bu'r criwiau yn y fan a'r lle am dros ddeg awr. Credir bod y tân wedi ei gynnau'n fwriadol.

Cafwyd tân arall yn Nolgellau ddoe. Roedd 50 o ddiffoddwyr tân yn bresennol ac roedd y tân wedi lledaenu ar draws 85 erw o laswellt ac eithin.  Cafodd y tân ei gynnau gan y tirfeddiannwr fel rhan o'i gynlluniau i gynnal a chadw'r tir ond fe ddatblygodd i fod yn dân ffyrnig a aeth allan o reolaeth yn gyflym iawn.

Cafwyd nifer o danau bychan yn ymwneud â llosgi glaswellt, eithin a rhedyn yn ogystal. Roedd rhai wedi eu cynnau'n fwriadol ac eraill o ganlyniad i beidio â diffodd sigaréts neu farbeciws yn gywir.  

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae'r tywydd sych dros benwythnos y Pasg wedi cynyddu'r perygl o dân mewn ardaloedd gwledig.

 

"Mae nifer o bobl wedi rhoi gwybod i ni eu bod yn llosgi dan reolaeth ar draws y rhanbarth dros y diwrnodau diwethaf, a hoffem ddiolch iddynt am roi gwybod i ni ac am ymddwyn yn ddiogel a chyfrifol.  Fodd bynnag, daeth y tymor llosgi dan reolaeth i ben ar 31ain Mawrth ac nid yw Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt 2008 yn caniatáu llosgi tan yr Hydref.  Os byddwch yn llosgi y tu allan i'r cyfnod hwn mae'n rhaid i chi  gael trwydded gan Lywodraeth Cymru.

 

"Yn ystod tywydd poeth mae glaswellt, grug ac eithin yn sychu ac fe all tanau ddatblygu'n gyflym o ganlyniad, yn enwedig os bydd gwyntoedd uchel, gan ledaenu i eiddo neu fforestydd cyfagos. Yn yr achosion hyn mae'n rhaid galw ar y gwasanaeth tân ac achub i'w diffodd.

 

"Mae tanau o'r math yma yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae diffoddwyr tân yn treulio oriau maith yn ceisio dod â'r tanau hyn dan reolaeth.

 

"Yn aml iawn mae'r tanau hyn yn digwydd mewn ardaloedd sy'n anodd iawn i'w cyrraedd a lle mae cyflenwadau dwr yn brin.

"Yn ystod y tymor llosgi gofynnwn i dirfeddianwyr alw'r ystafell reoli ar 01931 522 006 gan nodi lleoliad y tân - fe  fydd hyn yn arbed amser ac yn ein hatal rhag mynychu achos o losgi dan reolaeth.

"Dilynwch y canllawiau isod os byddwch yn llosgi dan reolaeth:


- Sicrhewch fod digon o bobl o gwmpas a bod offer digonol ar gael rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân.

- Edrychwch i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu i sicrhau nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt

-Os collwch reolaeth ar y tân cysylltwch â'r gwasanaeth tân yn syth gan roi manylion lleoliad a mynediad.

- Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn arofalu amdano neu beidio â chael digon o bobl i'w gadw dan reolaeth. - Gwnewch yn siwr fod y tân wedi diffodd yn llwyr cyn gadael a dychwelwch i'r fan y diwrnod canlynol er mwyn gwneud yn siwr nad ydyw wedi ailgynnau

"Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub hefyd yn annog pobl sydd yn ymweld â chefn gwlad i gymryd pwyll rhag ofn iddynt gynnau tanau.  Peidiwch â thaflu deunyddiau ysmygu ar laswellt a gwnewch yn siwr eu bod wedi eu diffodd yn llwyr. Os byddwch yn defnyddio barbeciws gwnewch yn  siwr eu bod wedi eu diffodd yn gywir a cofiwch eu cadw ymhell o ddefnyddiau fflamadwy.

"Cofiwch - mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael ag achosion o losgi bwriadol, drwy ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i danau a chwilio am ddrwgweithredwyr.

"Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau o'r fath galwch Crimestoppers yn ddienw ar  0800 555 111."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen