Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch yn dilyn llu o danau bwriadol

Postiwyd

 

 

Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gogledd Cymru yn annog pobl i aros a meddwl am ganlyniadau tanau glaswellt yn dilyn llu o danau ym Mlaenau Ffestiniog dros yr wythnos ddiwethaf sydd wedi bod yn draul ar ein hadnoddau prin.

Ers 1af Ebrill mae diffoddwyr tân wedi cael eu galw i 14 o danau bwriadol yng Ngogledd Cymru. Cafodd criwiau eu galw i lu o danau glaswellt ac eithin ar ffermydd yn ardal Blaenau Ffestiniog dros y tridiau diwethaf.

Cafodd criwiau o Bwllheli, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog eu galw i dân mawr a oedd  wedi lledaenu ar draws pedair erw o eithin a rhedyn am  8.59pm nos Fawrth 7fed Ebrill. Fe gymerodd hi dros ddeg awr i ddod â'r tân dan reolaeth.  Cafodd diffoddwyr tân o Borthmadog eu galw i dân y tu ôl i iard sgrap ym Mlaenau Ffestiniog am 9.02pm nos Fawrth 7fed Ebrill. Roedd y tân wedi tarddu o dri man gwahanol ac fe ledaenodd ar draws 30 metr sgwâr o laswellt. Daethpwyd a'r tân dan reolaeth erbyn 9.52pm.

Cafodd criw o Flaenau Ffestiniog eu galw i dân ym Manod am 8.44pm nos Lun 6ed Ebrill wedi i 20 metr sgwâr o eithin a rhedyn gael ei roi ar dân yn fwriadol.  Daethpwyd â'r tân dan reolaeth erbyn 9.21pm.

Cafodd criwiau hefyd eu galw i ddigwyddiad arall ym Manod, Blaenau Ffestiniog am 3.38pm ddydd Llun 6ed Ebrill. Roedd y tân eithin a rhedyn wedi tarddu o dri man gwahanol.  

Am 2.45pm ddydd Llun 6ed Ebrill cafodd criwiau eu galw i dân a oedd wedi lledaenu ar draws 30 metr sgwâr o eithin a rhedyn yn Nhai'r Gelli, Blaenau Ffestiniog.

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae'r tywydd sych diweddar wedi cynyddu'r perygl o danau gwledig ond mae'n  ddigalon gweld bod nifer o'r tanau hyn wedi eu cynnau'n fwriadol.

 

"Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae ein criwiau yn treulio oriau maith yn dod â'r tanau hyn o dan reolaeth, sydd yn golygu bod oedi wrth anfon diffoddwyr tân i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.

 

"Rwyf yn erfyn ar rieni i wybod ble mae eu plant a phwysleisio pwysigrwydd ein negeseuon pwysig fod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.

 

"Efallai mai chi neu aelod o'ch teulu fydd yn galw am ein help ac efallai na fyddwn yn gallu ymateb yr un mor gyflym neu'r un mor rhwydd ag arfer oherwydd ein bod yn delio gyda thân bwriadol."

Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael ag achosion o losgi bwriadol.

Yn ystod y gwyliau bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cadw llygaid barcud ar ardaloedd sydd wedi dioddef tanau bwriadol yn y gorffennol.

Cewch ddilyn ein hymgyrch i leihau tanau bwriadol yn y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #helpstopdeliberatefires ar trydar neu drwy fynd i'n gwefan. www.gwastan-gogcymru.org.uk

Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau o'r fath galwch Crimestoppers yn ddienw ar  0800 555 111 neu 101.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen