Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân ym Mhentraeth

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân wrthi'n delio gyda thân mewn gorsaf betrol ar yr A5025 ym Mhentraeth,  Ynys Môn.  Cawsant eu galw yno am 04.03 o'r gloch y bore yma (Dydd Gwener 3 Ebrill).

Mae peiriannau o Borthaethwy, Llangefni, Biwmares a dau o Fangor ynghyd â'r peiriant cyrraedd yn uchel o Fangor a'r Rhyl, yr uned meistrioli digwyddiadau o'r Rhyl a'r cariwr dwr o Gaernarfon yn bresennol.

Mae'r diffoddwyr yn defnyddio offer anadlu, prif bibellau dwr a phibellau tro a monitorau daear i daclo'r tân. Bu'n rhaid gorfodi  trigolion ystâd dai Nant y Felin i adael eu cartrefi a'u symud i'r ysgol gynradd ym Mhentraeth.

Mae'r A5025 ym Mhentraeth ynghau a gofynnir i'r cyhoedd osgoi'r ardal.

Mae criwiau yn dal yn bresennol ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen