Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd ynglyn â sosbenni sglodion yn dilyn tân ym Mwcle

Postiwyd

Mae swyddogion tân wedi cyhoeddi rhybudd am beryglon gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno wedi i sosban sglodion fynd ar dân ym Mwcle yn ystod oriau mân y bore yma.

 

Anfonwyd peiriannau tân o Fwcle a'r Wyddgrug i'r eiddo ar Victoria Avenue, Bwcle am 2.07 o'r gloch y bore Dydd Gwener 10fed Ebrill wedi i'r preswylydd gael ei ddeffro gan arogl mwg o'r sosban sglodion  a oedd ar dân yn y gegin.  

 

Roedd tri o bobl yn yr adeilad ar adeg y tân a llwyddodd pawb i fynd allan yn ddiogel cyn i'r criwiau gyrraedd.

 

Meddai Steve Cook, Rheolwr Hyfforddiant Gweithredol: "Fe allai'r sefyllfa fod wedi bod yn llawer iawn gwaeth gan nad oedd larymau mwg gweithredol yn yr eiddo.  Roedd  y rhai a oedd wedi eu gosod wedi cael eu tynnu i lawr gan nad oeddent yn gweithio.  Yn ffodus iawn, cafodd un preswylydd ei ddeffro gan arogl y mwg ac fe rybuddiodd y gweddill.

 

"Aethpwyd â'r tri i'r ysbyty am archwiliad oherwydd eu bod wedi arogli mwg ac maent bellach wedi cael eu hanfon adref.  Roeddent yn ffodus iawn gan y gallai'r sefyllfa fod wedi bod yn lawer iawn gwaeth.

 

"Roedd y tân wedi ei gyfyngu i'r gegin ac fe achoswyd dirfod tân 5%, gan ddinistrio'r sosban sglodion yn gyfan gwbl.

 

"Fe all gadael sosban sglodion heb neb i gadw llygaid arni arwain at ganlyniadau trychinebus gan y gall yr olew orboethi'n hawdd iawn a mynd ar dân - fe all hyd y peth lleiaf fynd â'ch sylw ac achosi tân mewn eiliadau.

 

"Mae sglodion popty neu ffrïwyr aer yn lawer iachach, ond os ydych yn dewis coginio mewn saim dwfn peidiwch â'i adael ymlaen heb neb i gadw llygaid arno.   Os aiff eich sosban ar dân, peidiwch â thaflyd dwr arni.  Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.  Peidiwch â cheisio diffodd y tân eich hun.

 

"Neu yn well fyth - taflwch eich sosban sglodion a defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres."

 

"Fe all tân ddatblygu'n dân difrifol iawn mewn ychydig funudau. Os ydych yn cysgu ar adeg y tân, rydych mewn trwbl - drwy anadlu dim ond ychydig o'r mwg fe allwch gael eich taro'n anymwybodol."

 

Os ydych yn dewis ffrio'ch tsips mewn saim dwfn, dilynwch y canllawiau isod i leihau'r perygl o dân;

 

. Peidiwch â gorlenwi'ch sosban gydag olew - ni ddylech fyth ei llenwi fwy na thraean


. Gofalwch rhag ofn iddi orboethi - fe all olew  poeth fynd ar dân yn hawdd iawn


. Defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres, er mwyn gwneud yn siwr na fydd yr olew yn gorboethi.

 
. Peidiwch byth â thaflu dwr oer ar eich sosban os aiff hi ar dân


. Ar lwgu ar ôl noson allan? Peidiwch â choginio os ydych wedi bod yn yfed alcohol


. Lluniwch gynllun dianc rhag ofn y bydd tân


. Peidiwch â pheryglu'ch bywyd drwy geisio diffodd y tân eich hun. Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999


. Gosodwch larymau mwg a phrofwch hwy yn rheolaidd.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim. Fel rhan o'r gwasanaeth hwn bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref  i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yn y Gogledd.

 

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch ein llinell ffôn dwyieithog 24 awr o'r dydd ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen