Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am beryglon e-sigaréts yn dilyn tân mewn ty yn y Rhyl

Postiwyd

 

Mae Swyddogion Tan yn rhybuddio trigolion ynglyn â pheryglon e-sigaréts yn dilyn tân mewn ty yn y Rhyl.

 

Cafodd dau griw o'r Rhyl eu galw i dân mewn eiddo yn Balmoral Grove, y Rhyl am 19.55 o'r gloch neithiwr, nos Iau 5ed Mawrth.

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan uned fatri ddiffygiol  ar gyfer gwefru  e-sigaréts a oedd wedi ei leoli yn y gegin.

 

Cyn i'r criwiau gyrraedd roedd dyn 49 mlwydd wedi llwyddo i fynd allan o'r adeilad wedi iddo ganfod mwg.  Cafodd ei rybuddio am y tân wedi iddo glywed ei larwm mwg yn seinio.  

 

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân.  Fe achosodd y tân ddifrod 100% i'r gegin, 75% o ddifrod mwg a gwres i weddill y llawer gwaelod a difrod mwg 50% i lawr cynaf yr adeilad.

 

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Roedd y dyn yma'n ffodus iawn mai dim ond triniaeth am fân anafiadau y bu'n rhaid iddo ei gael gan barafeddygon. Llwyddodd y criwiau i achub ci'r preswylydd.

 

"Mae'r digwyddiad yma'n amlygu pa mor gyflym y gall tân ledaenu - a phwysigrwydd ddefnyddio eitemau trydanol yn gywir ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

 

"Mae gwasanaethau tân ac achub ar draws y DU wedi bod yn dyst i beryglon e-sigaréts  ac felly rydym yn awgrymu eich bod yn cymryd pwyll wrth eu defnyddio.

 

"Mae e-sigaréts yn defnyddio batris y gellir eu hailwefru i bweru'r anweddydd ac mae gofyn ailwefru'r batris hyn yn rheolaidd.

 

"Rydym yn eich cynghori i brynu e-sigaréts gan werthwr dibynadwy bob amser ac i ddefnyddio'r batri a'r gwefrydd a ddaeth gyda'r e-sigarét.

 

"Defnyddiwch gyfarwyddiadau a chyngor y gwneuthurwr -  a diffoddwch hwy a thynnu'r plwg cyn i chi fynd i'r gwely.

 

"Peidiwch byth â'u gadael yn gwefru am gyfnod hir - mae e-sigaréts yn gallu gorboethi ac mae hyn yn cynyddu'r perygl o dân."

 

Am gyfarwyddyd pellach ar e-sigaréts ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk

Mae larymau mwg yn achub bywydau ac yn rhoi amser i chi fynd allan o'r adeilad mewn achos o dân.  Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, rhannu cynghorion diogelwch tân gyda chi, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân am ddim, galwch ein llinell rhadffôn 0800 169 1234 24 awr o'r dydd neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen