Gweithio mewn partneriaeth i hybu Diogelwch Ffyrdd
PostiwydMae staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, Cymdeithas Dai Clwyd Alyn a Chadw Cymru'n Daclus i hybu diogelwch ffordd fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Gwregysau Diogelwch.
Fe aeth staff draw i Lôn Celyn, Cei Connah Ddydd Sadwrn 28ain Chwefror i hybu diogelwch ffordd yn ystod diwrnod o hwyl a oedd wedi ei drefnu'n arbennig.
Cafodd plant a'u rhieni gyfle i gael gwybod mwy am ddiogelwch ffordd drwy wylio DVD addysgiadol gan y tîm diogelwch ffyrdd - 'Chwyldro' - a eglurodd bwysigrwydd peidio â goryrru gan ddangos y difrod y gall gwrthdrawiadau ffyrdd eu hachosi. Bu i'r tîm hefyd recriwtio rhagor o fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau yn y dyfodol.
Meddai Dave Roberts, Rheolwr Partneriaeth Wrecsam a Sir y Fflint: "Daeth i'r amlwg fod angen y math yma o ddigwyddiad gan fod trigolion wedi mynegi pryder bod plant lleol yn chwarae ar y ffordd ar yr ystâd ac y gallai hyn arwain at wrthdrawiad traffig ar y ffordd.
"Rydym yn falch bod y digwyddiad wedi ein galluogi i drafod pynciau megis rheolau'r groes werdd, llefydd sy'n ddiogel i chware a chadw'n ddiogel ar y ffordd. Hefyd, llwyddom i rannu cynghorion allweddol ynglyn â diogelwch tân yn y cartref gyda'r rhieni a oedd yn bresennol.
"Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Gwregysau Diogelwch yn gyfle gwych i bawb atgoffa'u hunain ynglyn â phwyntiau diogelwch allweddol. Mae'n bwysig bod gyrwyr yn meddwl am eu diogelwch eu hunain, ond hefyd am bobl eraill sy'n defnyddio'r ffordd, yn ogystal â cherddwyr.
"Roedd yn ddiwrnod gwych ac roeddwn yn falch o weld y plant yn cymryd diddordeb ac yn dysgu sgiliau newydd er mwyn cadw'n ddiogel ar y stryd."