Hybu'r Gymraeg ymysg teuluoedd ifanc yng Ngorsaf Dân Caergybi
Postiwyd
Croeswyd plant ifanc o Gaergybi a'r cyffiniau i Orsaf Dân Caergybi ddydd Iau 26ain Chwefror am ddiwrnod yn llawn hwyl .
Cafodd y diwrnod ei drefnu i gyd-fynd â Dydd Gwyl Dewi Ddydd Sul 1af Mawrth er mwyn hybu'r Gymraeg ymysg teuluoedd ifanc yn ogystal â hybu buddion siarad Cymraeg gyda'ch plant.
Cydweithiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyda Twf, Mudiad Meithrin a Menter Iaith Môn i drefnu diwrnod yn llawn gweithgareddau amrywiol megis crefftau, amser stori, ymweliad gan Selog a thaith dywys o Orsaf Dân Caergybi, a'r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.
Meddai Nici Siôn, Cyfieithydd a Swyddog Cyswllt Iaith Gymraeg Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Fel Gwasanaeth rydym yn hybu'r Gymraeg yn rheolaidd a thrwy gynnal y digwyddiad hwn yng Ngorsaf Dân Caergybi gall ei staff dwyieithog ddangos i'r ymwelwr bod dysgu Cymraeg o fantais wrth chwilio am waith. Dyma'r trydydd digwyddiad o'r fath i ni ei gynnal. Fe gynhaliom y cyntaf dros flwyddyn yn ôl, ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd y digwyddiad hwn hefyd yn llewyrchus iawn wedi i gannoedd o drigolion o Gaergybi a'r cyffiniau ddod i gefnogi'r diwrnod."
Meddai Annest Rowlands, Swyddog Maes Twf ar gyfer Ynys Môn a Dyffryn Ogwen: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad fel hwn gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub.
"Os ydych chi'n rhiant neu'ch bod ar fin dod yn rhiant, mae'n bwysig eich bod yn ystyried pa ieithoedd y byddwch chi'n eu cyflwyno i'ch plentyn. Mae dewis cyflwyno'r Gymraeg i'ch plentyn yn benderfyniad pwysig iawn - i rieni, y plentyn a'r teulu cyfan. Y cyngor gorau posib yw rhoi cynnig arni cyn gynted â phosib a chymryd mantais o'r gefnogaeth sydd ar gael yn lleol. Y mae manteision lu ynghlwm â siarad mwy nag un iaith - y mae'r Gymraeg yn agor y drws i bob math o gyfleoedd yn cynnwys mwy o gyfleoedd yn y gweithle."
Meddai Sara Davies, Swyddog Iaith Teuluoedd Menter Iaith Môn: "Roedd y diwrnod hwyl yn llwyddiant ysgubol, ac roedd yn braf gweld cymaint o rieni a phlant yn cymryd rhan yn y gweithgareddau a gynhaliom drwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth tua 200 i'n gweld a chafodd pawb gyfle i fwynhau'r gweithgareddau yn Gymraeg."