Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mynd i'r afael â thanau bwriadol dros y Pasg

Postiwyd

 

 

 

 

Mae'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn apelio ar i drigolion helpu i fynd i'r afael a thanau bwriadol yn ystod gwyliau'r Pasg.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i leihau achosion o losgi bwriadol dros y blynyddoedd diwethaf - ond wrth i'r dyddiau ymestyn ac wrth iddi gynhesu, rydym yn aml iawn yn gweld cynnydd mewn tanau bwriadol.

 

Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill mae'r gwasanaeth tân ac achub yn parhau i dderbyn mwy o alwadau i danau bwriadol nac ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn.

 

Mae nifer o fentrau , yn cynnwys partneriaethau gydag asiantaethau eraill, megis y gwaith ar y cyd rhwng y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol a Heddlu Gogledd Cymru, mentrau ieuenctid Prosiect y Ffenics, yn ogystal â nifer o ymgyrchoedd diogelwch wedi eu targedu, wedi helpu i leihau achosion o losgi bwriadol.

 

Oherwydd yr ymdrechion hyn cafwyd gostyngiad sylweddol o 68% dros y deng mlynedd diwethaf ac mae'r gostyngiad wedi parhau yn ystod y pedair blynedd diwethaf - cafwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y tanau bwriadol a fynychom: o 353 achos rhwng 1af Mawrth a 30ain Ebrill 2011, i 258 achos yn 2012, 166 achos yn 2013 ac yn ddiweddar 153 o achosion yn 2014.

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi bwriadol: "Mae'r gostyngiad hwn yn newyddion da. Rydym wedi gweithio'n ddiflino i fynd i'r afael â'r broblem dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y digwyddiadau yr ydym ni'n cael ein galw atynt.

 

"Ond, rydym yn dibynnu ar rieni a chymunedau i weithio gyda ni i bwysleisio ein negeseuon ar ganlyniadau cynnau tanau yn fwriadol - felly rydym yn apelio ar gymunedau i'n helpu ni i wneud yn siwr bod nifer y tanau bwriadol yn parau i aros yn isel dros y Pasg gan ein bod yn gwybod bod niferoedd yn dueddol o godi yn ystod y cyfnod hwn.

 

"Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae ein criwiau yn treulio oriau maith yn ceisio  dod â'r tanau hyn dan reolaeth, sydd wedyn yn golygu oedi wrth anfon diffoddwyr tân i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.

 

 

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i apelio ar rieni i wybod  ble mae eu plant a phwysleisio'r neges bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.  

 

"Efallai mai chi neu aelod o'ch teulu fydd yn galw am ein cymorth ac efallai na fyddwn yn gallu dod atoch cyn gyflymed neu cyn rhwydded  ag yr hoffem oherwydd ein bod yn delio gyda thân bwriadol."

 

Mae cynnau tanau yn fwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael ag achosion o losgi bwriadol.

Bydd Heddlu Gogledd Cymru ar y bît dros y gwyliau mewn nifer o ardaloedd sydd eisoes wedi dioddef tanau bwriadol yn y gorffennol.

Cewch ddilyn ein hymgyrch i leihau tanau bwriadol yn y cyfryngau cymdeithasol #helpwchiataltanaubwriadol ac ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk

Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau o'r fath fe'ch cynghorwn i alw Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ffoniwch 101.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen