Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hybu diogelwch tân yn ystod Diwrnod Iechyd Mawr yn Wrecsam

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i ofalu am berthnasau a chymdogion hyn neu fregus yr wythnos hon i gefnogi'r  'Diwrnod Iechyd Mawr' a gynhelir yn Wrecsam Ddydd Mercher 25ain Mawrth 2015.

 

Bydd  staff y Gwasanaeth yn bresennol yn ystod y 'Diwrnod Iechyd Mawr' a gynhelir yn Neuadd Goffa Wrecsam, Bodhyfryd, Wrecsam rhwng 11am - 3pm ynghyd â 40 o stondinau gwybodaeth eraill.

 

Y thema ar gyfer y diwrnod eleni yw 'Gwellhad a Byw yn Annibynnol' a bydd ein staff ni yno i hybu archwiliadau diogelwch tân  yn y cartref rhad ac am ddim ac i rannu cynghorion defnyddiol er mwyn gwneud yn siwr bod trigolion Wrecsam yn cadw mor ddiogel â phosibl.

Dengys ystadegau bod pobl 65 oed a  hyn dwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân na'r cyfartaledd ar gyfer pob oedran.  A chyda phoblogaeth sy'n mynd yn hyn tybir y bydd 23% o bobl y DU dros 65 oed erbyn 2035.

 

Er bod pobl hyn mewn mwy o berygl o ddioddef tân  yn y cartref fe allant gymryd rhagofalon syml i wneud yn siwr eu bod yn cadw mor ddiogel â phosibl.

 

Meddai Dave Roberts, Rheolwr Partneriaeth Sir y Fflint a Wrecsam: "Mae pobl hyn a bregus ymhlith y grwpiau yr ydym ni fel Gwasanaeth yn ceisio'u targedu, ac felly mae'r 'Diwrnod Iechyd Mawr' yn ddigwyddiad gwych i ni ei fynychu.

 

"Bydd yr ymwelwyr ar y diwrnod yn cael cyngor gan bob math o sefydliadau. Byddwn ni'n hybu archwiliadau diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim sydd yn cynnwys ymweliad gan aelod o'r gwasanaeth i drafod diogelwch tân a gosod larymau mwg os bydd angen.

 

Mae'r archwiliadau hyn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  Os na allwch fynychu'r digwyddiad a'ch bod yn dymuno cael archwiliad, ffoniwch ein rhif rhadffôn 0800 169 1234 unrhyw adeg o'r dydd, neu ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen