Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Teulu'n cael dihangfa lwcus o dân ym Mangor

Postiwyd

 

Mae diffoddwyr tân yn amlygu peryglon gadael gwresogyddion yn rhy agos i ddodrefn medal a dillad wedi i deulu gael dihangfa lwcus o dân yn eu cartref Ddydd Sul, 22ain Mawrth 2015.

 

Cafodd ddiffoddwyr tân o Fangor a Phorthaethwy eu galw i'r eiddo ym Maesgeirchen, Bangor am 05:18 o'r gloch.

 

Fe ddefnyddiodd y criwiau un bibell dro, dau set o offer anadlu ac un ysgol driphlyg estynadwy i frwydro yn erbyn y tân a achosodd ddifrod tân 10% i ofod  yr atig.

 

Llwyddodd y teulu i fynd allan o'r eiddo yn ddianaf.  

 

Meddai Richard Evans, Rheolwr Addysg i Fusnesau: "Credir bod y tân wedi ei achosi gan wres pelydrol o ddillad a oedd wedi eu storio ger gwresogydd halogen a oedd wedi ei adael ymlaen drwy'r nos.

 

"Rydym yn cynghori trigolion i beidio â gosod goleuadau neu wresogyddion cludadwy ger dodrefn meddal rhag ofn iddynt orboethi.  Hefyd, dylid gosod gwresogyddion cludadwy yn erbyn y wal, ac nid ar hyd eich llwybr dianc.

 

"Roedd y teulu yma'n ffodus iawn eu bod wedi llwyddo i fynd allan o'r eiddo yn ddianaf. Yn ogystal â sefydlu arferion gyda'r nos er mwyn eich cadw mor ddiogel â phosib rhag tân, rydym yn eich cynghori i ddiffodd pob cyfarpar trydanol oni bai eu bod wedi cael eu dylunio i gael eu gadael ymlaen, cau drysau er mwyn atal lledaeniad y tân, a sicrhau eich bod wedi gosod larymau mwg yn eich cartref gan y gallai hyn olygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw."

 

Mae defnyddio gwresogyddion trydanol yn ffordd dda o gadw'n gynnes ar nosweithiau oer ac arbed costau tanwydd - ond fe allant fod yn beryglus os na chânt eu defnyddio'n gywir, ac felly rydym yn eich cynghori i ddilyn y canllawiau isod wrth ddefnyddio gwresogyddion cludadwy:

 

.Peidiwch â defnyddio'r gwresogydd os ydy'r cord wedi gwisgo neu dreulio

.Peidiwch â gosod carped neu rygiau dros y cord neu'r cord estyn

.Peidiwch â hongian dim byd uwch ben y gwresogydd

.Peidiwch â gosod y gwresogydd ger dodrefn neu lenni

.Diffoddwch y gwresogydd cyn i chi fynd allan neu cyn i chi fynd i'r gwely.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Rydym yn gynnig cyngor sylfaenol ar ddiogelwch tân yn y cartref fel rhan o'r gwasanaeth hwn. I gofrestru galwch ein llinell rhadffôn 24 awr  ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen