Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr Tân yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Sglodion

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog trigolion i leihau'r siawns o gael tân yn eu cartref trwy daflu eu sosban sglodion i ffwrdd yn ystod Wythnos Genedlaethol Sglodion.

Dywedodd Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol, "Mae gadael sosban sglodion am unrhyw amser yn medru arwain at sefyllfa drychinebus gan y gall yr olew ordwymo a thanio. Mae newid syml o sosban i sglodion popty neu declyn ffrïo'n ddwfn sy'n rheoli tymheredd yn medru helpu rhwystro'r gwaethaf.

"O'r siop sglodion i fwrdd y gegin, bydd sglodion ar y fwydlen yr wythnos hon - ond os bydd rhywbeth yn mynd â'ch sylw am funud wrth ddefnyddio sosban sglodion boeth gall arwain at dân mewn ennyd.

"Sglodion popty neu declyn ffrïo dwfn yw'r ffordd mwy diogel ac iach i fwynhau sglodion, ond os ydych yn dewis ffrïo'n ddwfn, peidiwch â gadael y sosban. Os yw'r sosban yn tanio, peidiwch â thaflu dwr drosti - ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999."

Os ydych yn dewis ffrïo eich sglodion yn ddwfn, gall yr awgrymiadau cyffredinol canlynol helpu lleihau'r risg:

. Peidiwch â gorlenwi'r sosban gydag olew - byth dim mwy nag un rhan o dair yn llawn

. Byddwch yn ofalus nad yw'n gordwymo - gall olew poeth fynd ar dân yn hawdd

. Defnyddiwch declyn ffrïo dwfn sy'n rheoli tymheredd, a fydd yn sicrhau nad yw'r olew yn mynd yn rhy boeth

. Peidiwch byth â thaflu dwr ar dân mewn sosban sglodion

. Eisiau bwyd ar ôl bod yn y dafarn? Peidiwch â choginio ar ôl yfed alcohol

. Os oes tân, gwnewch yn siwr bod gennych lwybr dianc

. Peidiwch â chymryd risg trwy geisio diffodd y tân - ewch allan a ffonio 999

. Gosodwch larwm mwg a'i brofi'n rheolaidd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn ymweld â'ch cartref, yn rhoi cyngor diogelwch tân, eich helpu chi i lunio cynllun dianc os oes tân a gosod larymau newydd - i gyd yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i holl drigolion Gogledd Cymru.

I gofrestru i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref, ffoniwch y llinell 24 awr am ddim ar 0800 169 1234, ebost cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen