Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn hyrwyddo Wythnos Diogelwch Ffyrdd ledled Cymru

Postiwyd

Mae partneriaid diogelwch ffyrdd yng Nghymru yn lledaenu’r gair ar yrru’n ddiogel trwy gyfrwng digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled y rhanbarth fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffyrdd (23 - 27 Tachwedd 2015).

 

Eleni, mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol cyffiniol a chyda chefnogaeth yr Heddlu lleol, yn canolbwyntio’i sylw ar gynyddu ymwybyddiaeth o’r pum prif achos o wrthdrawiadau traffig ffordd angheuol yng Nghymru, sef:

 

1. GORYRRU

2. ALCOHOL

3. CYFFURIAU

4. FFONAU SYMUDOL

5. GWREGYSAU DIOGELWCH

 

Y thema yw’r ‘Pum Marwol’ – mae hyn yn cyfeirio’n benodol at – Peidiwch ag yfed a gyrru, Arafwch, Peidiwch â bod yn ddiofal, Defnyddiwch eich gwregys diogelwch a Diffoddwch eich ffôn symudol. Anogir gyrwyr i gofio’r ‘Pum Marwol’ pan fyddant yn gyrru, gyda’r nod o leihau’r nifer o bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd ledled De Cymru.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymroddedig i sicrhau bod ein cymunedau yn lleoedd diogelach i weithio a byw ynddynt, ac i ymweld â nhw. Gall gyrwyr helpu trwy yrru mewn dull cyfrifol a lledaenu’r neges diogelwch ffyrdd mor eang ag y bo modd – ‘peidiwch byth â chymryd y risg, gallai’r canyniadau fod yn farwol’.

 

Yn ystod Wythnos Diogelwch Ffyrdd 2015, bydd staff hefyd yn cynnal y digwyddiadau canlynol:

 

Dydd Llun:                Bydd y cerbyd addysg amlbwrpas yn ymweld â Stryd y Lampint, Wrecsam i hyrwyddo diogelwch ar y ffordd yn enwedig ar gyfer gyrwyr hŷn a chyrsiau Pass Plus.

 

Dydd Mawrth:           Digwyddiad Effeithau Angheuol yn hyrwyddo diogelwch ar y ffordd yng Ngholeg Menai Bangor.

 

Dydd Mercher:          Digwyddiadau Effeithiau Angheuol yn hyrwyddo diogelwch ar y ffordd yng Ngholeg Menai Llangefni.

 

Dydd Gwener:          Diwrnod Opsiynau yng Ngorsaf Dân Glannau Dyfrdwy yn rhoi opsiwn i yrwyr sydd wedi cael eu dal yn siarad ar y ffôn tra’n gyrru i gael dirwy neu wylio cyflwyniad a dysgu am ddiogelwch ar y ffordd.

 

Esboniodd Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân “Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda’n partneriaid yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd i amlygu negeseuon diogelwch ar y ffyrdd i’n cymunedau. Mae Wythnos Diogelwch Ffyrdd yn gyfle gwych i bawb atgoffa eu hunain ynglŷn â negeseuon allweddol diogelwch ar y ffordd.”

 

Aeth ymlaen, “Mae Wythnos Diogelwch Ffyrdd 2015 yn unigryw gan y bydd y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru yn dod at ei gilydd, yn cronni adnoddau a phrofiad i sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn derbyn cyngor clir, cynhwysfawr o ran sut medrent leihau’r tebygolrwydd o ddod yn rhan o’r ystadegau.

 

“Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’r cyhoedd yn y digwyddiadau hyn a’r nod yw cyfrannu ymhellach tuag at leihad yn y nifer o bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Cymru bob blwyddyn”.

 

I gael mwy o wybodaeth am Ddiogelwch Tân a Diogelwch ar y Ffordd, ewch i: www.nwales-fireservice.org.uk  neu ‘Hoffwch’ ni ar Facebook a’n ‘Dilyn’ ni ar Twitter.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen