Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch e-sigaréts ar ôl tân mewn tŷ myfyrwyr ym Mangor

Postiwyd

Mae swyddogion tân yn rhybuddio trigolion, yn enwedig myfyrwyr, o beryglon e-sigaréts ar ôl tân mewn tŷ ym Mangor.

                     

Galwyd dau griw o Fangor ac un o Borthaethwy i dân mewn eiddo ar Ffordd Ffriddoedd, Bangor am 18.02 o’r gloch ddoe (dydd Mercher 30ain Medi).

 

Ystyrir mai achos y digwyddiad oedd e-sigarét yn gor-boethi ar ôl ei gadael yn trydanu, gan achosi i’r gwely fynd ar dân.

 

Mae’r eiddo yn gartref i bump o fyfyrwyr, ac roedd dau ohonynt adref ar y pryd ac wedi gadael yr adeilad yn ddiogel. Roedd larwm mwg wedi seinio.

 

Wrth gyrraedd, canfu’r diffodddwyr tân bod un o’r llofftydd lawr daear yn llawn mwg, a bod mwg du yn dod allan o ffenestr agored yng nghefn yr eiddo. Defnyddiodd y criwiau ddwy set o offer anadlu ac un bibell ddŵr i ddelio â’r tân.

 

Meddai Terry Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y myfyrwyr yn ffodus gan y gallai’r difrod fod wedi bod yn llawer gwaeth a gallai hwn fod wedi bod yn dân llawer mwy difrifol.

 

“Mae’r digwyddiad yn dangos pa mor gyflym y gall tân ymledu – a phwysigrwydd defnyddio eitemau trydanol yn gywir a’u trin yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

 

“Profiad gwasanaethau tân ac achub ledled y DU yw y gall e-sigaréts gynrychioli risg uwch o dân a bod angen cymryd gofal ychwanegol wrth eu defnyddio.

 

“Mae pob e-sigarét yn defnyddio batri sydd angen ei ail-drydanu i gynhyrchu’r anwedd, ac mae angen ail-drydanu’r batris yn rheolaidd.

 

“Rydym yn eich cynghori i brynu’r pethau hyn o ffynhonnell ddibynadwy bob amser, a dim ond defnyddio’r batri a’r gwefriwr a ddarperir gyda’r e-sigarét. Dilynwch gyfawryddiadau’r gwneuthurwr bob amser gan ofalu eu diffodd a thynnu’r plwg cyn mynd i’r gwely. Peidiwch â defnyddio gwefrwyr gwahanol – defnyddiwch yr un sy’n dod gyda’r e-sigarét bob amser.

 

“Peidiwch â gadael pethau yn trydanu, a pheidiwch â’u gadael am gyfnodau maith – rydym yn gwybod bod e-sigaréts yn mynd yn boeth wrth drydanu.

 

“Rydym hefyd yn annog holl fyfyrwyr, boed mewn neuaddau preswyl neu mewn llety rhent preifat, i fod yn ymwybodol o ddiogelwch tân – mae digon o wybodaeth ar ein gwefan ac ar ein tudalen Facebook.

“Mae larymau mwg yn achub bywydau ac yn rhoi amser ychwanegol i chi ddianc rhag tân. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch cartref am ddim, sydd ar gael i holl drigolion Gogledd Cymru.”

I gofrestru i gael archwiliad diogelwch cartref am ddim, ffoniwch y llinell rhadffon ar 0800 169 1234 neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk .

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen