Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am beryglon sosbenni sglodion yn dilyn tanau yn Wrecsam

Postiwyd

Heddiw mae diffoddwyr tân wedi cyhoeddi rhybudd difrifol am beryglon gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno wedi dau dân sosban sglodion o fewn dwy awr i'w gilydd yn ardal Wrecsam.

Cafodd tri pheiriant tân o Wrecsam eu galw i eiddo ar y Stryd Fawr yng Ngresffordd am 14.24 o'r gloch wedi i larwm mwg rybuddio am dân yn y gegin a oedd wedi ei achosi gan sosban sglodion yn y gegin.  Fe ddefnyddiodd ddiffoddwyr tân dau set o offer anadlu ac un bibell dro i daclo'r tân a achosodd losgiadau arwynebol i freichiau a choesau dyn yn ei 30au wedi iddo geisio symud y sosban o'r eiddo.  Y mae wedi  ei gludo i'r ysbyty am driniaeth erbyn hyn.  

 

Yn gynharach am 12.32 o'r gloch mewn eiddo yng Nghoed Efa, Brychdwn Newydd, ger Wrecsam cafodd dau griw tân o Wrecsam eu galw wedi i ddyn yn ei 40au geisio diffodd tân sosban sglodion yn ei gartref.  Gyda diolch ni chafod ei anafau.  

Meddai Dave Roberts, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Yn y ddau ddigwyddiad yma, roedd y trigolion wedi ceisio taclo'r tân eu hunain, rhywbeth nad ydym yn ei gynghori.

"Roedd y tanau wedi eu cyfyngu i'r gegin ond fe allant fod wedi lledaenu'n hawdd iawn gan achosi rhagor o ddifrod ac anafiadau.

"Gall gadael sosbenni sglodion ymlaen, hyd yn oed am gyfnod byr, gael effaith trychinebus gan y gall yr olew yn gorboethi ac yn mynd ar dân - gall tân gynnau mewn ychydig eiliadau os bydd hyd yn oed y peth lleiaf yn mynd â'ch sylw.

"Y mae sglodion parod y gellir eu coginio yn y popty yn opsiwn llawr mwy diogel yn ogystal ag iachach, ond os byddwch yn dewis eu ffrio mewn saim dwfn peidiwch â gadael y sosban ar yr hob heb neb i gadw llygaid arni.  Os aiff eich sosban sglodion ar dân, peidiwch â thaflu dŵr drosti.  Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999. Peidiwch byth á thaclo'r tân eich hun.

"Gwell fyth fyddai gwneud i ffwrdd â'ch heb sosban yn gyfan gwbl a defnyddio ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres yn ei lle."

"Gall tân bychan ddatblygu'n dân difrifol ac angheuol mewn ychydig eiliadau.  Os ydych yn cysgu ar adeg y tân yna rydych mewn trwbl - byddwch yn cael eich taro'n anymwybodol ar ôl anadlu dim ond ychydig o'r mwg."

Yn 2007, bu farw  Sean Bowers, 24, o Benyffordd ac Andrew Roberts, 39, o Ruthun yn dilyn tanau yn y cartref - roedd y tanau wedi eu hachosi gan sosbenni sglodion.
 
Os ydych yn dewis ffrio eich sglodion mewn saim dwfn, cofiwch ddilyn y cynghorion canlynol i leihau'r perygl o dân;

• Peidiwch â rhoi gormod o olew yn y sosban - peidiwch byth â'i llenwi fwy na thraean

• Gofalwch na fydd yn gorboethi - gall olew poeth fynd ar dân yn hawdd iawn

• Defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres, a fydd yn sicrhau na fydd yr olew yn mynd yn rhy boeth

• Peidiwch byth â thaflu dŵr ar sosban sglodion

• Ar lwgu ar ôl noson allan?  Peidiwch â choginio ar ôl yfed alcohol

• Gwnewch yn siŵr bod gennych lwybr dianc rhag ofn y bydd tân

• Peidiwch â pheryglu'ch hun drwy geisio taclo'r tân eich hun.  Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999

• Gosodwch larwm mwg yn eich cartref a phrofwch y larwm yn rheolaidd


Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, rhannu cynghorion diogelwch tân gyda chi, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan am ddim.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, galwch ein llinell rhadffôn ddwyieithog sydd ar agor 24 awr o'r dydd ar 0800 169 1234 neu ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk

                                             

                                             

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen