Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymestyn y dyddiad cau ar gyfer recriwtio diffoddwyr tân rhan amser yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer ei ymgyrch i recriwtio diffoddwr tân System Dyletswydd Ar Gael yn Ôl y Galw (RDS) i Ddydd Llun 6ed Hydref 2014.

MaeRuth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, yn egluro: "Rydym wedi cael ymateb positif iawn i'r ymgyrch hyd yma ac ni fydd yn amharu ar y ceisiadau yr ydym ni eisoes wedi eu derbyn.

"Ond rydym yn awyddus i  annog mwy o geisiadau o bob cwr o'r rhanbarth -yn benodol y gorsafoedd tân hynny lle nad ydym wedi derbyn llawer o geisiadau. Mae'r rhain yn cynnwys Betws y Coed, Corwen, Dinbych, Tywyn, y Waun, Llangefni ac Aberdyfi.

"Rydym hefyd yn awyddus i glywed fan unigolion o ardal Dolgellau, Llanelwy, Rhosneigr a Llangollen.

"Rydym hefyd wedi trefnu dau ddigwyddiad 'Gweithredu Cadarnhaol', un yn y Rhyl a'r llall yn Nolgellau, i annog mwy o ferched i ymgeisio ar gyfer y swyddi diffoddwyr tân RDS - mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu'r gymuned yr ydym ni'n ei gwasanaethu ac i gynyddu'r gynrychiolaeth gan grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli er mwyn cael dealltwriaeth well o anghenion  a disgwyliadau'r gymuned.  

"Rydym felly'n dal yn awyddus i glywed gan bobl sydd gan ddiddordeb mewn gweithio fel diffoddwyr tân rhan amser yn eu gorsaf dân leol er mwyn darparu gwasanaeth tân ac achub hanfodol yn eu hardal leol.

"Rydym yn chwilio yn benodol am ymgeiswyr sydd ar gael yn ystod y dydd, ac a all gyrraedd eu gorsaf dân ymhen pump neu chwe munud o gael eu galw allan.

"Efallai bod gan y bobl hyn rolau eraill megis adeiladwyr, perchnogion siop, nyrsys, gweithwyr ffatri, rieni sy'n aros gartref neu bobl sydd yn gweithio gartref yn ystod oriau gwaith arferol, ond at hyn mae disgwyl i ddiffoddwyr tân rhan amser fod ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys pan fydd angen.

"Mae diffoddwyr tân yn weithlu sgilgar iawn, sydd yn achub bywydau ac eiddo rhag tân.  Mae diffoddwyr tân RDS yn cynnig arbenigedd yn ystod damweiniau ffordd, awyr a rheilffordd, gollyngiadau cemegol, llifogydd, tanau rhostir, coedwig a mynydd, damweiniau amaethyddol ac achub anifeiliaid.

"Rydym yn chwilio am ddynion a merched brwd a all arddangos synnwyr cyffredin, ymrwymiad ac ymroddiad.  Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub dimau clòs sydd wedi eu hyfforddi'n dda, ac sydd yn gweithio gydag offer modern o'r radd flaenaf. Bydd recriwtiaid hefyd yn cymryd rhan yn ein gwaith ataliol i atal tanau rhag digwydd yn ein cymuned."

Cynhelir nosweithiau agored i ddarpar ddiffoddwyr tân yn y gorsafoedd canlynol ar y dyddiadau canlynol;

Nosweithiau Agored 6.30pm-9.30pm

Gorsaf DânCorwen, Nos Lun 22ain Medi (hefyd yn agored i bobl yn ardaly WaunaLlangollen).

Gorsaf DânBetws y Coed, Nos Fawrth 23ain Medi

Gorsaf DânRhosneigr, Nos Fercher 24ain Medi (hefyd yn agored i bobl yn ardalLlangefni)

Gorsaf DânDinbych, Nos Fawrth 30ain Medi (hefyd yn agored i bobl yn ardalLlanelwy)

Gorsaf DânDolgellau, Nos Iau 2il Hydref (hefyd yn agored i bobl yn ardalTywyn ac Aberdyfi)

Positive Action Events 9.30am-12.30pm

Gorsaf Dân Gymunedoly Rhyl, Nos Fawrth 30ain Medi

Gorsaf DânDolgellau, Nos Iau 2il Hydref

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o'r nosweithiau agored neu mewn gyrfa fel diffoddwr tân rhan amser cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 neu RDSrecruitment@gwastan-gogcymru.org.uk.

Dylai pob cais ddod i law erbynDydd Llun 6ed Hydref 2014.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. Mae'n rhaid iddynt feddu ar safon dda o ffitrwydd a'r gallu i gyflawni profion dawn.  Yn ogystal â ffi gadw fisol, byddwch yn cael eich talu am ymateb i alwadau, presenoldeb a nosweithiau ymarfer.

Mae nifer o gyflogwyr yn ymwybodol o'r rôl hanfodol personél y gwasanaeth tân ac achub yn y gymuned ac mae nifer yn rhyddhau staff i ddiffodd tanau neu gyflawni dyletswyddau brys eraill.

Am ragor o fanylion am yrfa fel diffoddwr tân RDS mewn gorsafoedd yng Ngogledd Cymru, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen