Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am ddiogelwch trydanol yn dilyn tân yn Abergele

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd am beryglon tanau trydanol yn dilyn tân yn  Abergele Ddydd Mercher, Awst 20.

 

Cafodd dau griw o'r Rhyl, criwiau o Fae Colwyn a Phrestatyn, yr Uned Achub Technegol o Wrecsam a'r Peiriant Cyrraedd yn Uchel o'r Rhyl eu galw i'r eiddo ar  Ffordd Y Morfa, Abergele am 11.02 o'r gloch.

 

Fe ddefnyddiwyd pibellau tro ac offer anadlu i ddiffodd y tân, a oedd wedi lledaenu i'r gofod rhwng y nenfwd a'r to, ac roedd dan reolaeth erbyn 13.13 o'r gloch.

 

Roedd yn rhaid i breswylwyr y tai drws nesaf adael eu cartrefi.  Cafodd pump o bobl eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans am driniaeth ragofalol.

 

Credir mai tân trydanol oedd hwn a oedd wedi cynnau yn yr ystafell wely.

 

Meddai Tony Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  "Mae nifer yn anghofio bod trydan yn berygl tân, efallai oherwydd nad oes fflam.  Ond hyd yn oed os nad oes fflam, nid yw hynny'n golygu nad oes perygl - peidiwch ag anwybyddu'r perygl o dân trydanol."  

 

Dyma air i gall gan Tony:

● Cadwch gyfarpar trydan yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da a chofiwch eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd
● Peidiwch byth â phrynu cyfarpar trydan heb wybod yn gyntaf eu bod yn ddiogel i'w defnyddio
● Dylai cyfarpar gael marc diogelwch Prydeinig neu Ewropeaidd arnynt
● Peidiwch â gadael cyfarpar trydan yn y modd segur, oni bai eu bod wedi eu dylunio i gael eu gadael ymlaen (Oergelloedd a Rhewgelloedd er enghraifft). Dylech ddiffodd cyfarpar eraill yn y plwg, yn ddelfrydol dylid tynnu'r plwg, cyn i chi fynd allan neu fynd i'r gwely
● Gwnewch yn siŵr bod eich system drydan yn cael ei gynnal a'i gadw gan drydanwr cymwys a chofrestredig o leiaf unwaith pobl 10 mlynedd
● Gwnewch yn siŵr bod Dyfais Cerrynt Gweddilliol wedi ei osod ar offer gardd rhag ofn i chi ddioddef sioc drydanol neu gael eich lladd
● Peidiwch â gorlwytho socedi - defnyddiwch un plwg yn unig ymhob soced .
- Defnyddiwch addasydd 'math bar' yn hytrach nag addasydd 'bloc'
- Gwnewch yn siŵr nad ydy cyfanswm ampau'r plygiau'n fwy na 13 aml (neu 300 wat)
- Peidiwch â phlygio addasydd i addasydd arall - defnyddiwch un addasydd ymhob soced.

 

Mae Tony hefyd yn eich cynghori i archwilio lidiau a phlygiau trydan rhag ofn eu bod wedi treulio neu fod nam arnynt, ac os sylwch fod socedi'n mynd yn boeth, goleuadau'n fflachio neu farciau llosg ar blygiau neu socedi mae'n eich cynghori i ofyn i drydanwr cymwys wirio'r system weirio.

 

Fe ychwanegodd: "Er mwyn eich cadw chi a'ch teulu'n ddiogel, gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg gweithredol ar bob llawr yn eich cartref a phrofwch hwy'n rheolaidd.

 

"Hefyd, yn y digwyddiad hwn, roedd silindrau yn cael eu cadw yn yr ystafell wely - dylid cadw silindrau nwy mewn man diogel ymhell o'r tŷ, a dylid eu cadw ymhell oddi wrth ffynonellau gwres.

 

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys darparu a gosod larymau mwg, trafod pwysigrwydd llwybrau dianc, diogelwch trydanol ac arferion gyda'r nos.

 

"I gael gwybod mwy am ddiogelwch tân ac i gael gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim yn eich cartref ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu galwch ein llinell rhadffôn 24 awr 0800 169 1234."

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen