Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dyn yn marw ar ôl tân mewn tŷ allan yn Llanaelhaearn

Postiwyd

Mae dyn wedi marw ar ôl tân mewn tŷ allan mewn gardd yn Llanaelhaearn, Gwynedd.

Galwyd y gwasanaethau argyfwng i eiddo ym Mryn Ffynnon brynhawn heddiw (Dydd Iau 31ain Gorffennaf).

Anfonwyd criwiau o Gaernarfon a Phwllheli am 14.54 o'r gloch i ddelio â thân yn y tŷ allan a oedd yn ymwneud â silindr nwy.

Roedd y gŵr a fu farw yno yn ei 70au.

Mae ymchwiliad ar y cyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru nawr ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen