Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Angen diffoddwyr tân rhan amser mewn gorsafoedd ar hyd a lled y Gogledd

Postiwyd

Heddiw mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n lansio ymgyrch i recriwtio diffoddwyr tân i'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw a fydd yn helpu i amddiffyn cymunedau ar hyd a lled y rhanbarth.

Rydym yn awyddus i recriwtio diffoddwyr tân i'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw mewn sawl ardal ac rydym yn chwilio am geisiadau gan unigolion brwdfrydig sydd yn awyddus i weithio fel diffoddwyr tân rhan amser yn eu gorsaf leol.

Rydym yn recriwtio yn y gorsafoedd canlynol:

Meddai Ruth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: " Mae diffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn darparu gwasanaeth tân ac achub hanfodol yn yr ardal y mae eu gorsaf dân leol yn ei gwasanaethu. Rydym yn edrych am unigolion addas, yn enwedig rhai sydd ar gael yn ystod y dydd, ac a all gyrraedd eu gorsaf dân leol ymhen pum i chwe munud o gael eu galw allan.

"Efallai bod y bobl hyn yn adeiladwyr, perchnogion siop, nyrsys, gweithwyr ffatri, gwragedd tŷ neu bobl sydd yn gweithio o adref yn ystod eu horiau gwaith arferol ond eu bod ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys yn ôl y galw.

"Mae diffoddwyr tân yn bobl sgilgar iawn sydd wedi cwblhau  hyfforddiant cyflawn er mwyn achub bywydau ac eiddo o danau.  Mae diffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn bresennol yn ystod damweiniau ffordd, rheilffordd ac awyrennau, gollyngiadau cemegol, llifogydd, tanau mewn coedwigoedd, rostiroedd a mynyddodd, damweiniau amaethyddol a digwyddiadau lle mae'n rhaid achub anifeiliaid.

" Rydym yn chwilio am ddynion a merched brwdfrydig sydd gan synnwyr cyffredin, ymrwymiad ac ymroddiad. Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub dimau agos sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel ac maent yn defnyddio'r offer mwyaf modern a diweddar. Bydd recriwtiaid hefyd yn cymryd rhan yn ein gwaith diogelwch tân sydd yn helpu i atal tanau rhag digwydd yn ein cymunedau. "

Mae gorsafoedd o bob cwr o'r rhanbarth yn cynnal nosweithiau agored i ddarpar ddiffoddwyr tân rhwng6.30pm - 9.00pmar y nosweithiau canlynol;

Gorsaf DânCorwen,Nos Lun 28ain Gorffennaf

Gorsaf DânRhuthun,Nos Fawrth 29ain Gorffennaf

Gorsaf DânLlangefni,Nos Fercher 30ain Gorffennaf

Gorsaf DânPorthmadog,Nos Iau 31ain Gorffennaf

Gorsaf DânYr Wyddgrug,Nos Lun 4ydd Awst

Gorsaf DânY Waun,Nos Fawrth 5ed Awst

Gorsaf DânBiwmares,Nos Fercher 6ed Awst

Gorsaf DânAberdyfi,Nos Iau 7fed Awst

Gorsaf DânLlanfairfechan,Nos Lun 11eg Awst

Gorsaf DânHarlech,Nos Fawrth 12fed Awst

Gorsaf DânBetws y Coed,Nos Fercher 13eg Awst

Gorsaf DânCerrigydrudion,Nos Iau 14eg Awst

Gorsaf DânAbergele,Nos Lun 18fed Awst

Gorsaf DânAbersoch,Nos Fawrth 19eg Awst

Gorsaf DânLlanberis,Nos Fercher 20fed Awst

Gorsaf DânAbermaw,Nos Iau 21ain Awst

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu noson agored neu i gael gwybod mwy am yrfa fel diffoddwr tân rhan amser, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 neu RDSrecruitment@gwastan-gogcymru.org.uk

Dylai pob cais fod i law erbyn 27ain Awst 2014.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 18 mlwydd oed.  Mae'n rhaid iddynt fod yn iach a phasio profion dawn.  Yn ychwanegol i'r ffi gadw fisol a delir, maent yn derbyn tâl ychwanegol am ymateb i alwadau, presenoldeb a nosweithiau ymarfer.
 
Mae nifer o gyflogwyr yn ymwybodol  o'r  rôl hanfodol y mae personél rhan amser y gwasanaeth tân ac achub yn ei chwarae yn y gymuned ac y mae nifer o gyflogwyr yn fodlon rhyddhau staff i ddiffodd tanau a mynychu digwyddiadau brys eraill.
 
 Am ragor o wybodaeth a chyfleoedd gyrfa i ddiffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw mewn gorsafoedd ar hyd a lled y Gogledd, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen