Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad - Tân mewn adeilad ailgylchu yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam

Postiwyd

Mae'r tân mewn adeilad ailgylchu yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, Lôn Bryn, Wrecsam wedi ei ddiffodd.

Roedd tri chriw o Wrecsam, a chriw o Fwcle, Glannau Dyfrdwy a Johnstown  yn bresennol ynghyd â'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl. Derbyniwyd yr alwad am 11.56 o'r gloch heddiw, Dydd Mawrth Ebrill 15.

Fe effeithiodd y tân ar ran o'r adeilad sydd wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.  Mae'r cludfelt yn cael ei gadw yno.

Fe  ddefnyddiodd diffoddwyr tân offer anadlu, pibellau tro a phibellau dŵr i ddiffodd y tân ac maent yn fentio'r adeilad ar hyn o bryd.

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen