Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i fynd i’r afael â thanau bwriadol

Postiwyd

Apêl i fynd i'r afael â thanau bwriadol

 

Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gogledd Cymru yn apelio  ar drigolion i'w helpu i fynd i'r afael â thanau bwriadol wedi i griwiau gael eu galw i chwe achos o losgi glaswellt yn fwriadol brynhawn ddoe a thros nos.

 

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i danau glaswellt ym Mlaenau Ffestiniog, Glannau Dyfrdwy, Abersoch, Llangollen, Porthmadog a'r Rhyl rhwng 15.14 o'r goch ddoe (Dydd Llun) ac 01.48 o'r gloch y bore yma (Dydd Mawrth). Roedd pob un o'r tanau hyn wedi eu cynnau'n fwriadol.

 

Y mae hyn yn dilyn 15 o danau bwriadol dros y penwythnos yn cynnwys tanau glaswellt, adeiladau a cheir mewn lleoliadau ar draws y rhanbarth yn cynnwys  Bangor, Wrecsam, Maes Glas, Abergele, Glannau Dyfrdwy, Bagillt, Treffynnon a'r Wyddgrug.

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: " Wrth i'r dyddiad ymestyn a'r tywydd gynhesu, rydym yn aml yn gweld cynnydd mewn achosion o danau bwriadol.  Fodd bynnag, rydym wedi bod yn gweithio'n ddiflino i fynd i'r afael â'r broblem dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym wedi gweld lleihad sylweddol yn nifer yr achosion yr ydym yn cael ein galw iddynt.  

 

"Rydym yn dibynnu ar rieni ac aelodau'r cyhoedd i weithio gyda ni er mwyn pwysleisio'r negeseuon ynglŷn â chanlyniadau cynnau tanau yn fwriadol - rydym felly'n erfyn ar y gymuned i'n helpu i wneud yn siŵr bod cyn lleied â phosib o danau bwriadol yn digwydd.  Mae'r niferoedd uchel dros y dyddiau diwethaf yn dangos bod pobl yn dal i gynnau tanau yn fwriadol yn ein cymunedau - a hithau'n addo tywydd braf, mae'n bwysig ein bod ni gyd yn gwneud ein rhan er mwyn rhoi terfyn ar y broblem."

 

Rhwng 1af Mawrth - 30ain Ebrill 2011, cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i 252 o danau bwriadol ar draws y rhanbarth.  Y mae nifer yr achosion hyn wedi parhau i ostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn.  Roedd 176 o ddigwyddiad yn ystod yr un cyfnod yn 2012 a 95 yn 2013.  Rhwng 1af Mawrth - 14eg Ebrill 2014, mae'r Gwasanaeth wedi mynychu 56 o danau bwriadol.

 

Bydd y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn defnyddio hysbysebion ar Facebook yn ystod y Gwyliau Pasg er mwyn targedu rhieni sydd yn byw yng Nghaergybi a Wrecsam, sef yr ardaloedd sydd â phroblem benodol o danau bwriadol.  Bydd y negeseuon yn erfyn ar i rieni fod yn ymwybodol o ble mae eu plant a'u hannog i siarad am ganlyniadau cynnau tanau bwriadol gyda'u plant.  Byddant yn ymddangos ar ffrydiad newyddion ar Facebook yn yr ardaloedd hynny yr ydym yn ceisio'u targedu.

 

At hyn, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn patrolio ardaloedd y Rhyl, Bae Colwyn, Porthmadog  a Threffynnon yn amlach - ardaloedd lle cafwyd nifer o danau bwriadol dros y Pasg y llynedd.

 

Fe aeth Kevin ymlaen i ddweud: "Hoffwn fanteisio ar y cyfle i erfyn ar rieni i wybod ble mae eu plant a phwysleisio'r neges bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.

 

"Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau, ac mae ein criwiau yn am' yn treulio cyfnodau hir yn ceisio dod â'r tanau hyn dan reolaeth sydd yn eu hatal rhag mynychu digwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.

 

"Cofiwch - mae cynnau tanau'n fwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â thanau bwriadol. Byddwn yn defnyddio hofrennydd yr heddlu i geisio dod o hyd i danau a chwilio am ddrwgweithredwyr.

"Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am y math yma o droseddau fe'ch cynghorir i gysylltu gyda Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen