Gweithio mewn partneriaeth er mwyn helpu i gadw trigolion Gwynedd yn gynnes a diogel
Postiwyd
Y mae masnachwr tanwydd lleol yn Ne Gwynedd wedi ymuno gyda staff Gwasanaeth Tân Ac Achub Gogledd Cymru er mwyn helpu i sicrhau bod ei gwsmeriaid yn gynnes a diogel y gaeaf hwn.
Y mae Huw Thomas o'r cwmni J H Jones a'i Feibion Cyf yng Nghorris (Canolfan Calor Abermaw( Barmouth) wedi ymuno gyda diffoddwyr tân lleol er mwyn helpu trigolion i sylweddoli pwysigrwydd cadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref. Fe fydd yn dosbarthu llyfrynnau arbennig 'Cadw'n ddiogel y gaeaf hwn', sydd yn rhoi gwybodaeth am bwysigrwydd larymau mwg gweithredol a rheolau diogelwch tân sylfaenol, i dros 1000 o gwsmeriaid wrth iddo ddosbarthu tanwydd gwresogi i gartrefi yn ystod misoedd y gaeaf.
Meddai Huw, sydd yn rhedeg y busnes teuluol gyda'i dad Gareth a'i wraig Rachel: "Mae nifer o'n cwsmeriaid yn byw mewn ardaloedd gwledig, yn bell iawn o'r orsaf dân leol - felly mae'n bwysig eu bod yn cael rhybudd cynnar pe byddai tân yn cynnau yn y cartref. Rydym yn awyddus i gadw'n cwsmeriaid yn ddiogel, ond hefyd, fel busnes teuluol, rydym yn poeni am eu diogelwch - ffordd dda o'u cadw'n ddiogel yw rhoi gwybod iddynt fod y gwasanaeth tân ac achub yn gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim a rhoi cyngor defnyddio iawn iddynt ar sut i gadw'n ddiogel."
Cafodd y bartneriaeth ei chreu wedi i John Paul Williams, Gweithiwr Cefnogi Diogelwch Tân yn y cartref gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ofyn i Huw pe byddai'n bosib iddynt gydweithio er mwyn lledaenu negeseuon diogelwch yn y gymuned.
Meddai John Paul: "Mae cwmni Huw yn dosbarthu tanwydd ar draws De Gwynedd, yn aml iawn i gartrefi anghysbell iawn. Rydym am i drigolion gymryd mantais o'n harchwiliadau diogelwch tân yn y cartref sydd ar gael yn rhad ac am ddim - ac felly mae'n hanfodol ein bod yn rhannu'r wybodaeth yma a all arbed bywydau gyda chymunedau gwledig. Mae'r llyfrynnau hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar gadw'n ddiogel yn y cartref er mwyn atal tanau rhag digwydd yn y lle cynaf. Rydym yn ddiolchgar iawn i Huw a'r cwmni am gytuno i weithio mewn partneriaeth gyda ni ar y fenter hon."
Fe ychwanegodd Huw: "Rydym yn falch ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn cadw'n cwsmeriaid mor diogel â phosib, ac edrychaf ymlaen at gael gweithio mewn partneriaeth yn y dyfodol."
Am gyngor ar sut i gadw'n ddiogel ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn y cartref yn rhad ac am ddim, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad Diogelwch tân yn y cartref. I gofrestru, galwch ein rhif rhadffôn 24 awr 0800 169 1234 ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda HFSC.