Tân difrifol yn Llanrwst
PostiwydMae dyn 19 mlwydd oed wedi marw ac mae dyn 39 mlwydd oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn tân yn Llanrwst yn ystod oriau mân y bore yma (Dydd Gwener 10 Hydref).
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn fflat llawr cyntaf yn Sgwâr Ancaster, Llanrwst am 06.03 o'r gloch y bore, yn cynnwys pum peiriant o Lanrwst, Conwy, Bae Colwyn a Llandudno, ynghyd â'r peiriant cyrraedd yn uchel o'r Rhyl.
Llwyddodd un dyn, 48 mlwydd oed, i ddianc yn ddianaf.
Cafodd ffordd yr A470 ei chau oherwydd bod cerbydau'r gwasanaethau brys yn bresennol ac y mae disgwyl i'r ffordd aros ar gau am beth amser.
Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill i sefydlu achos y tân.