Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn arwain gydag Iechyd Corfforaethol

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dathlu ar ôl derbyn yr anrhydedd fwyaf posibl i gydnabod ei ymrwymiad 'arbennig' i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac ymlyniad cymdeithasol.

 

Mae'r Gwasanaeth wedi derbyn sêl bendith Safon Platinwm Iechyd Corfforaethol, ar ôl llwyddo eisoes i ennill y Wobr Aur am iechyd a lles yn y gweithle.

 

Mae'r Safon Iechyd Corfforaethol yn rhaglen Cymru Iach ar Waith ac mae'n farc safon cenedlaethol y gellir ei ennill ar lefel Efydd, Arian, Aur a Phlatinwm. Cedwir y lefel Platinwm ar gyfer cyflogwyr enghreifftiol sy'n dangos rhagoriaeth mewn busnes ac yn rhoi ystyriaeth lawn i'r cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

 

Dywedodd Simon Smith, y Prif Swyddog Tân: "Mae Cymru yn flaengar yn y DU gyda'r safon hon ac rwy'n hynod falch fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn un o ddim ond dau sefydliad sydd wedi derbyn y wobr Blatinwm anrhydeddus yng Ngogledd Cymru.

 

"Mae'r cais am wobr lefel Platinwm yn gofyn am amlinelliad o'r arfer orau sydd wedi mynd y tu hwnt i ddeddfwriaeth ac yn dangos ymrwymiad, y tu allan i weithgareddau arferol y sefydliad.

 

"Buom yn canolbwyntio ar Orsaf Dân Gymunedol y Rhyl fel enghraifft o rywle lle rydym yn mynd y tu hwnt i'n hamcanion busnes craidd ym maes ymlyniad cyhoeddus. Mae ar gael i'r gymuned ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, ac mae'r orsaf dân yn y Rhyl wedi croesawu dros 50,000 o ymwelwyr rhwng 2008 a 2012 gydag amrywiaeth lawn o grwpiau lleol bellach yn defnyddio'r cyfleusterau'n rheolaidd. Rhoesom wahoddiad i gynrychiolwyr y grwpiau cymuned lleol hyn gyfarfod ag aseswyr y Safon Iechyd Corfforaethol i drafod eu profiadau unigol o ddefnyddio Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl.

 

"Disgrifiwyd ein gweithgareddau mewn meysydd allweddol a ddatblygwyd gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, cludiant, creu cyfalaf, rheoli cyfleusterau, gwaith a sgiliau, fel rhai 'arbennig' gan ein haseswyr yn ystod cam olaf y cais, pan dreuliasant ddiwrnod yn archwilio ein tystiolaeth, yn mynd ar daith o amgylch yr Orsaf Dân Gymunedol, ac yn gweld arddangosfa gyda'r Uned Amddiffyn yr Amgylchedd.  Bu pobl ifanc o Brosiect y Ffenics hefyd yn dangos sut rydym ni'n cyfrannu tuag at ailgyfeirio ieuenctid at weithgareddau gwerth chweil, gan hyrwyddo integreiddio gyda'u cyfoedion a'r gymuned.

 

"O ganlyniad, argymhellodd yr aseswyr bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru nawr yn mentora sefydliadau eraill sy'n dymuno datblygu ar draws amrediad o feysydd sydd wedi eu cynnwys yn y wobr - ac rydym wrth ein boddau bod gweithwyr proffesiynol ar draws ein Gwasanaeth yn gweithio fel tîm i gyfrannu tuag at amddiffyn yr amgylchedd, a meithrin ein staff a'n cymunedau ar yr un pryd."

 

Dyma sylw gan Ann Jones AC Dyffryn Clwyd: "Roeddwn yn falch iawn o glywed am lwyddiant Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac maen nhw'n llwyr haeddu'r wobr. Rwy'n ymwybodol o'u hymdrech i ymwneud â'r gymuned ac mae llwyddiannau Prosiect y Ffenics yn cael effaith fawr sy'n newid bywydau nifer o bobl ifanc. Mae'r Gwasanaeth yn cymryd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol o ddifrif, a dylid eu llongyfarch am eu llwyddiant anhygoel."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen