Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Disgyblion Holt yn ennill cystadleuaeth llunio poster

Postiwyd

 

 

Yn ddiweddar fe aeth Swyddogion Tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i Ysgol Gynradd Holt, Wrecsam i gyflwyno gwobrau i enillwyr eu cystadleuaeth llunio poster.

 

Fe enillodd Amy a Max y wobr gyntaf ar ôl i'w posteri hwy gael eu dewis o blith cannoedd o bosteri a dderbyniwyd o bob cwr o'r Gogledd.  Roedd yn rhaid i'r plant ddylunio poster am yr effaith y mae tanau bwriadol yn ei gael a pham y dylai plant beidio â chynnau tanau yng nghefn gwlad.

 

Fe gyflwynwyd iPod shuffle i'r plant o flaen eu ffrindiau yn ystod y gwasanaeth boreol.

 

Kevin Jones, Rheolwr y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol a gyflwynodd y wobr.  Meddai: "Rydym yn falch iawn bod Ysgol Holt yn ogystal ag ysgolion eraill ar draws y rhanbarth wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth.  Nod y gystadleuaeth oedd addysgu plant am ddiogelwch tân mewn ffordd hwyliog - rydym yn mawr obeithio y byddant yn cadw'r negeseuon diogelwch mewn cof ar gyfer y dyfodol."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen