Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lori wellt ar dân

Postiwyd

 

Cafodd diffoddwyr tân o Rhuthun, Corwen, Wrecsam, y Bala a Dinbych a'r Uned Diogelu'r Amgylchedd o Wrecsam eu galw i ddigwyddiad ar dir amaeth ger Rhuthun a Chorwen am 12.21 o'r gloch heddiw, Dydd Llun 15fed Gorffennaf, wedi i lori a oedd yn cario 25 tunnell o wellt fynd ar dân.

 

Mae'r tân dan reolaeth erbyn hyn ond mae'r criwiau yn parhau i fod ar y safle yn lleithio'r mannau poeth.

 

Credir bod y tân wedi cynnau'n ddamweiniol, ond cynhelir ymchwiliad llawn i achos y tân yn ddiweddarach heddiw.

 

Meddai Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

 

"Fe weithiodd y criwiau yn dda i ddod â'r tân dan reolaeth yn gyflym a hynny dan amgylchiadau poeth a llychlyd."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen