Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apelio ar bobl i wneud yn siŵr bod eu larymau mwg yn gweithio yn dilyn tân yn New Brighton

Postiwyd

 

Y mae uwch swyddog tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol a chynlluniau dianc cyfarwydd wedi i deulu o saith ddianc o dân difrifol yn eu cartref yn New Brighton neithiwr.

 

Cafodd diffoddwyr tân o Johnstown, Wrecsam, y Waun a Llangollen eu galw i dân mewn tŷ anghysbell yn ardal  New Brighton ym Minera, Wrecsam am 10.56 o'r gloch neithiwr (Dydd Sul, Gorffennaf 14).

 

Roedd dynes, merch yn ei harddegau a'i phartner ynghyd â phedwar o blant yn y tŷ ar adeg y tân.

 

Roedd y ddynes i fyny'r grisiau'n cysgu pan gafodd  ei deffro gan  sŵn taro a chlecian i lawr y grisiau.  Pan aeth i weld beth oedd achos y twrw fe aeth ati i ddeffro pawb ar ôl sylweddoli bod y larymau mwg yn seinio.

 

Nid oedd yn bosib defnyddio'r llwybr dianc arferol oherwydd rhwystrau felly fe giciodd partner y ferch ddrws arall iddynt gael ei ddefnyddio.  

 

Llwyddodd pawb i ddianc yn ddianaf ond cawsant eu cludo i'r ysbyty am driniaeth ragofalol cyn cae eu rhyddhau yn gynharach heddiw.

 

Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.

 

Meddai Paul Whybro, Pennaeth Risg a Chydnerthedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r achos hwn yn dangos pwysigrwydd larymau mwg gweithredol a llwybrau dianc cyfarwydd.

 

"Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân a all eich helpu i ddianc o dân yn ddiogel a chyflym.  Gwnewch yn siŵr bod pawb yn eich helpu i gynllunio'r cynllun dianc - cofiwch gynnwys plant a phobl hŷn fel bod pawb yn gwybod beth i'w wneud.  Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ymhle mae agoriadau eich drysau a'ch ffenestri yn cael eu cadw fel y gallwch fynd allan yn ddiogel mewn argyfwng.

 

"Gyda diolch, ni chafodd unrhyw un ei anafu ond gallai'r digwyddiad fod wedi bod yn un trychinebus iawn.  Roedd y tŷ mewn lle anghysbell  a dylai pobl sydd yn byw mewn ardaloedd gwledig gymryd gofal arbennig gan fod ein gorsafoedd tân ni ymhell o'u cyrraedd.  Golyga hyn ei bod yn cymryd amser i'n diffoddwyr tân gyrraedd yr eiddo - felly mae'n bwysig bod tân yn cael ei ganfod yn gynnar."

 

 

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.  Yn ystod archwiliad byd aelod o'r gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim os oes angen.  Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein llinell rhadffôn 24 awr  0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen