Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn serennu mewn CD dysgu Cymraeg

Postiwyd

Ar ôl ennill y wobr Cymraeg yn y Gweithle ynseremoni wobrwyo Gwobrau Ysbrydoli Cymru'r Sefydliad Materion Cymreig  fis diwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio CD newydd sbon danlli sydd yn cynnwys lleisiau rhai o'i aelodau staff gyda'r nod o annog aelodau eraill i ddysgu Cymraeg.

 

Mae'r CD yn barhad o'r cryno ddisgiau lefel 1 a 2 a grëwyd fel rhan o gwrs dysgu Cymraeg o bell y Gwasanaeth.

 

Y mae nifer o'r staff eisoes wedi cwblhau'r cwrs lefel 2 ac fe aethpwyd ati i greu'r CD hwn, sydd yn addasiad o raglen dysgu Cymraeg Heddlu Gogledd Cymru, wedi i nifer o weithiwyr fynegi eu bod yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg ymhellach.

 

Mae'r CD yn cynnwys lleisiau rhai o aelodau staff y Gwasanaeth ac y mae ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Fe gwblhaodd Ann Pierce, sydd yn Dechnegydd Cyfrifo yn yr Adran Gyllid, y cwrs Cymraeg Lefel 3 a ddarparwyd gan  yn ddiweddar gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.  Meddai: " Mae dysgu iaith newydd yn hwyl, mae'r CD hwn yn arf amhrisiadwy a fydd yn helpu aelodau staff i ddod yn siaradwyr rhugl gan ei fod yn cynnwys llawer o ddeunyddiau dysgu ychwanegol.

 

"Rydw i'n edrych ymlaen at gael defnyddio'r CD i'm helpu i ymarfer fy sgiliau iaith Gymraeg - mae'n ffordd hawdd iawn o gadw geiriau ac ymadroddion allweddol mewn cof. Mae'n hanfodol bod rhywun yn ymarfer ei Gymraeg yn rheolaidd fel nad ydyw'n anghofio - a bydd y CD yma'n fy helpu i wneud hyn."

 

Meddai'r Prif Swyddog Tân Simon Smith :   "Drwy weithredu fel sefydliad dwyieithog gallwn ddarparu gwasanaeth brys o'r radd flaenaf i bobl y Gogledd - yn aml iawn mae'n rhaid i ni ddelio gyda phobl fregus mewn sefyllfaoedd bregus iawn lle gall darparu gwasanaeth dwyieithog olygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw.

 

"Mae gan ein staff agwedd gadarnhaol iawn tuag at y Gymraeg yn y gweithle, yn ogystal â'r gymuded a'r gwasanaethu yr ydym yn ei ddarparu i'r cyhoedd.  Mae aelodau'n staff sydd yn gweithredu fel Hyrwyddwyr Iaith Gymraeg  yn mynd tu hwnt i'w dyletswyddau cyffredin i'n helpu i  hybu'r Gymraeg yn y gweithle ac annog ein gweithlu i ddysgu Cymraeg a gwneud yn fawr o'u sgiliau.  O ganlyniad rydym yn darparu gwasanaeth cwsmer o safon uchel.

 

"Mae'n galonogol iawn ein  bod wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaeth dwyieithog y ein cymuned - mae'r ffaith bod nifer yr archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yr ydym yn eu cwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg  wedi cynyddu o 4% i 20% yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf yn dyst i hyn.  "Ac rydym bellach yn defnyddio sticeri 'Cymraeg' ar helmedau ein diffoddwyr tân fel bod modd dod o hyd i siaradwyr Cymraeg yn ystod digwyddiadau.

 

 

"Hoffem ddiolch i'n partneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru a'r hen Fwrdd yr Iaith Gymraeg am eu cymorth a'u cefnogaeth i wella ein sgiliau iaith Gymraeg."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen