Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyhoeddi rhybudd yn dilyn tanau eithin a thanau mewn coedwigoedd

Postiwyd

 

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa pobl i feddwl am ganlyniadau cynnau tanau glaswellt a thanau mewn coedwigoedd wedi i danau gael eu cynnau yng Ngwynedd a Chonwy ddoe.  Roedd y tanau hyn yn draul  ar ein hadnoddau prin am gyfnodau hir.

Fe dreuliodd ein criwiau tân chwe awr yn delio gyda thân coedwig ac isdyfiant ym Mrynrefail ger Caernarfon ddoe, dydd llun 3 Mehefin.  

Fe dderbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'r alwad am 14.55 o'r gloch.  Roedd y tân wedi lledaenu dros bum acer cyn i ddiffoddwyr tân ei ddiffodd gan ddefnyddio  curwyr.  Fe weithiodd y criwiau yn galed yn erbyn gwyntoedd cryfion i atal y tân rhag lledaenu at blanhigfa goedwigaeth saith acer a oedd gerllaw.  Roedd criwiau o Lanberis, Caernarfon, Bangor a Chonwy yn bresennol yn ystod y digwyddiad, a achoswyd gan sigarét yn ôl pob tebyg.

Yn y cyfamser, fe anfonwyd criwiau o Abergele a Dinbych i ddelio gyda thân eithin ger Castell Gwrych, Ffordd Llanddulas, am 19.18 o'r gloch.  Credir bod y tân wedi ei achosi ar oll i blant lleol gynnau tân gwersyll a'i adael yn llosgi heb neb i gadw llygaid arno.

Meddai Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r math yma o danau yn rhoi llawer o bwysau ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae diffoddwyr tân yn treulio peth amser yn ceisio dod â'r tanau hyn dan reolaeth.  Mae'r tanau hyn yn peryglu bywydau a chartrefi, maent yn dinistrio cefn gwlad ac yn gwastraffu llawer o arian.  

"Rydym yn annog ymwelwyr a phobl leol  sydd yn mwynhau'r tywydd braf i gymryd gofal yng  nghefn gwlad er mwyn lleihau'r perygl o dân.

"Cofiwch - mae cynnau tanau yn drosedd ac rydym ni'n gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â thanau bwriadol, gan ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i danau a chwilio am ddrwgweithredwyr.

"Cynghorir unrhyw un sydd gan wybodaeth am droseddau o'r fath i alw Taclo'r Taclau yn ddienw ar0800 555 111."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen