Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Achub bustach yn Sir y Fflint

Postiwyd

 

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i ddigwyddiad ar lannau'r afon Dyfrdwy am 3.10 pm, dydd Sadwrn 1af Mehefin.  Roedd criwiau o Lannau Dyfrdwy a Bae Colwyn yn bresennol yn ystod y digwyddiad lle achubwyd bustach a oedd yn sownd yn y mwd.  

Meddai Ian Williams, Pennaeth Ymateb: "Roedd bad achub gyda'r glannau Sir y Fflint yn hyfforddi ar yr afon ar yr adeg a chawsant gymorth ganddynt hwy i achub y bustach.

"Mae'r digwyddiad yn amlygu pwysigrwydd cydweithio gyda sefydliadau eraill er mwyn delio gyda digwyddiadau yn ddiogel.  

Llwyddwyd i achub y bustach cyn i'r llanw ddod i mewn drwy ddefnyddio offer a oedd ar y peiriannau tân.  Ar ôl cael ei achub fe gerddodd y bustach yn ôl i'r cae heb unrhyw anafiadau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen