Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân o’r Wyddgrug yn codi arian i elusennau lleol

Postiwyd

Daeth elusennau lleol at ei gilydd yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug neithiwr i dderbyn cyfran o'r £1,500 a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân flynyddol yng Nghae Pêl-droed Yr Wyddgrug fis Tachwedd

Fe dderbyniodd Hosbis Tŷ'r Eos, Wrecsam ac Uned Gofal Dwys i Fabanod, Ysbyty Maelor Wrecsam £750 yr un.

Meddai Peter Edwards, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymrodd ran yn y gwaith o drefnu'r noson tân gwyllt y llynedd - fe weithiodd pawb fel rhan o dîm i drefnu noson lwyddiannus iawn i'r holl gymuned.

"Rydym yn falch ein bod yn cael gweithio ochr yn ochr â thrigolion y Gogledd er mwyn eu cadw mor ddiogel â phosibl.  Mae gweld yr arian yn cael ei ddefnyddio yn y gymuned leol yn gwneud y cyfan werth chweil."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen