Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Wrecsam yn rhoi rhybudd amserol i bobl fod yn ymwybodol o ddiogelwch trydanol

Postiwyd

 

Y mae trigolion wedi cael rhybudd amserol i gadw diogelwch trydanol  mewn cof dros y Nadolig- ac osgoi gorlwytho socedi trydan, yn enwedig wrth i bobl roi eu haddurniadau Nadolig i fyny yn barod ar gyfer y gwyliau - yn dilyn tân yn y cartref  yn ardal Wrecsam

 

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i dân mewn peiriant golchi mewn eiddo yn Ffordd Henblas, Rhostyllen am 12.34 o'r gloch Ddydd Llun Rhagfyr yr 2il.  Ar ôl cyrraedd gwelsant fod un soced yn cael  ei ddefnyddio ar gyfer 14 o wahanol declynnau yn y gegin.

 

"Roedd y trigolion hyn yn lwcus iawn - fe wnaethon nhw arogli'r mwg ar ôl i'r peiriant golchi orboethi ac yna'n galw ni am gymorth.  Gallai'r difrod fod wedi bod yn llawer iawn gwaeth pe byddent wedi bod allan o'r tŷ ar adeg y tân neu pe byddai'r tân wedi cychwyn gyda'r nos a hwythau yn eu gwelyau,"  meddai Steve Houghton o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Ym mis Chwefror eleni fe achubwyd teulu o saith drwy ffenest yn eu cartref yn Abermaw  yn dilyn tân trydanol.  Yn ddiweddarach fe gymrodd y teulu Griffith ran yn yr ymgyrch 'Taflu Goleuni ar Ddiogelwch Trydanol!' a oedd wedi cael ei drefnu gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i erfyn ar i bobl ar draws y rhanbarth gymryd sylw o ddiogelwch tân trydanol.  

 

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Y mae cymaint o drigolion yn defnyddio eitemau trydanol sydd yn hen neu'n beryglus ac yn gorlwytho socedi, a all arwain at dân angheuol.   Rydym yn cael ein galw i oddeutu 470 o danau damweiniol yn y cartref bob blwyddyn ac y mae trydan neu eitemau trydanol yn gyfrifol am oddeutu 300 o'r rhain.

 

"Y mae tua 90 o'r rhain yn digwydd o ganlyniad i nam trydanol - ond mae'r mwyafrif yn digwydd oherwydd bod pobl yn camddefnyddio eitemau trydanol.  Mae'n bwysig bod pobl yn defnyddio cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a'u bod yn edrych i weld a yw'r eitemau trydanol neu'r lidiau wedi eu difrodi neu dreulio.

 

"Ar yr adeg yma o'r flwyddyn mae'n bwysig eich bod yn wneud yn siŵr bod goleuadau eich coeden Nadolig yn cydymffurfio â'r Safon Brydeinig.  Defnyddiwch ddyfais cerrynt gweddilliol (RCD) ar gyfer oleuadau y gellir eu defnyddio tu allan a diffoddwch eich goleuadau Nadolig cyn mynd i'r gwely.

 

"Mae pawb yn meddwl na fydd tân yn digwydd iddynt hwy - ond mae achosion fel y rhai yn Rhostyllen ac Abermaw yn dangos y gall tân ddigwydd i unrhyw un.  Fy nghyngor yw byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel.

 

"Er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn gorlwytho socedi rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell amapau ar ein gwefan ac ar facebook.  Bydd yn rhoi gwybod i chi os ydych yn gorlwytho socedi ac yn ei helpu i gadw'n ddiogel rhag tân trydanol."

 

Am gyngor ar ddiogelwch tân trydanol ac i roi cynnig ar ein cyfrifiannell 'ampau'  ewch i  www.gwastan-gogcymru.org.uk neu www.facebook.com/Northwalesfireservice

 

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, lle byddwn yn gosod larymau mwg am ddim, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 1691243, e-bost dtc@gwastan-gogcymru.org.uk ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen