Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Llunio dyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i annog y cyhoedd, unwaith yn rhagor, i'w helpu i lunio ei ddyfodol.

Mae'n awyddus i glywed barn pobl ar ei flaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Mae'r gwasanaeth tân ac achub yn adolygu a gwella'r gwasanaethau y mae'n eu darparu'n barhaus ac fel rhan o'r broses flynyddol hon mae'n gwahodd unrhyw un sydd gan ddiddordeb i leisio barn ar y blaenoriaethau sydd yn yr arfaeth.

Mae'r  Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi nodi'r tair blaenoriaeth strategol ar gyfer 2014-15 a thu hwnt:

1.   Parhau i gadw pobl a chymunedau'n ddiogel trwy atal marwolaethau ac anafiadau oherwydd tanau damweiniol mewn cartrefi. Dyma brif flaenoriaeth yr Awdurdod.

2.   Ymgymryd â chynllun ariannol newydd dros 3 blynedd a fydd yn anelu i gynnal y gwasanaeth cyfredol heb gynyddu costau fwy na £1 y pen y flwyddyn i boblogaeth y Gogledd.  Bydd hyn yn dilyn ymlaen  o'r cyfnod lle cafodd y gyllideb ei rhewi am dair blynedd a arweiniodd at leihau'r gost gyffredinol o redeg y Gwasanaeth gan £2.45 miliwn.  Ar hyn o bryd y gost o redeg y gwasanaeth tân ac achub yng Ngogledd Cymru yw £46 fesul pen o'r boblogaeth.

3.   Parhau i geisio ffyrdd amgenach o ddarparu gwasanaeth tân ac achub yng Ngogledd Cymru, yn enwedig lle mae'r trefniadau presennol yn anodd eu cynnal.

Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru:  "Mae'r gwasanaeth tân ac achub yn yr oes sydd ohoni yn darparu gwasanaethau llawer mwy soffistigedig nag ymateb i argyfyngau yn unig.  Ar yr un pryd, mae llawer o bwyslais ar gydweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill er mwyn creu cymunedau cadarn - felly mae gwaith y gwasanaeth tân ac achub o ddiddordeb i lawer o bobl nid dim ond y rhai sydd wedi dioddef tanau.

"Mae'r cwestiynau sy'n cael eu gofyn fel rhan o'r ymgynghoriad yn ymwneud â chyfeiriad strategol y gwasanaeth yn gyffredinol a sut i wneud yn siŵr ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posib gyda'r arian sydd ar gael i ni.

"Po fwyaf y bobl fydd yn cymryd rhan, gorau oll, oherwydd bydd yn ein galluogi i sicrhau'r cydbwysedd iawn o ran y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.  Po fwyaf y sylwadau a dderbyniwn, gallwn fod yn fwy ffyddiog byth y bydd y cynlluniau gweithredu manwl y byddwn yn eu datblygu yn ateb gofynion pobl y Gogledd."

Mae modd i'r cyhoedd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan drwy fynd i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk - rhaid anfon yr holiaduron yn ôl erbyn 9fed Rhagfyr 2013.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen