Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd wedi i ddyn o Landudno gael dihangfa lwcus yn dilyn tân sosban sglodion

Postiwyd

Unwaith eto, mae diffoddwyr tân yn rhybuddio pobl am beryglon gadael bwyd yn coginio wedi i ddyn 79 mlwydd oed gael dihangfa  lwcus o dân sosban sglodion yn ei gartref yn Llandudno - dyma'r ail dân difrifol o ganlyniad i goginio yn ardal Conwy yn ystod y 24 awr ddiwethaf.  

Galwyd criwiau o Landudno i'r eiddo ar Kings Avenue am 16.07 o'r gloch heddiw (Dydd Iau 17eg Hydref) a ddefnyddiodd dau set  offer anadlu ac un bibell ddŵr i ddiffodd y tân.

 

Credir bod y dyn wedi syrthio i gysgu ar ôl gadael sosban sglodion ar y pentan.  Cafodd ei ddeffro gan ei larwm mwg a cheisiodd ddiffodd y tân ei hun.  Fe ddioddefodd losgiadau i'r ben a'i freichiau yn y broses.  Cafodd ei gludo i'r ysbyty am driniaeth.

Meddai Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Yn ffodus iawn, fe seiniodd y larwm mwg a rhybuddio'r dyn yn y fflat am y tân.  Fel arall, gallem fod wedi bod yn delio gyda diddigwyddiad llawer mwy difrifol.

"Fe ddigwyddodd y tân ychydig oriau wedi tân arall yn ystod oriau mân y  bore yma pan gafodd dynes ei chludo o dân yn ei fflat ar Ffordd Conwy,, Bae Colwyn wedi iddi adel bwyd yn coginio yn y ficrodon.  

"Dengys yr ystadegau ar draws y Du bod fwyafrif y tanau damweiniol yn y cartref yn cychwyn yn y gegin.  Mae dros hanner y tanau damweiniol sydd yn digwydd yn y cartref yng Ngogledd Cymru yn digwydd o ganlyniad i goginio.

"Rydym yn cynghori pobl i gael gwared ar eu hen sosbenni sglodion a defnyddio ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres yn eu lle.  Nid pes peryg i'r rhain orboethi a mynd ar dân yn yr un modd a sosbenni sglodion. Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno, hyd yn oed am eiliad - a gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a'i fod yn gweithio."

Yn 2007 bu farw , Sean Bowers, 24, o Benyffordd ac Andrew Roberts, 39, o  Ruthun, yn dilyn tanau yn y cartref -  roedd y tanau wedi eu hachosi gan sosbenni sglodion.

"Gall tân bychan ddatblygu'n dân difrifol ac angheuol mewn ychydig funudau" meddai Gwyn. "Os bydd tân yn cynnau a chithau'n cysgu, rydych mewn perygl difrifol. Byddwch yn anymwybodol ar ôl anadlu dim ond ychydig o fwg."

 

Mae'r rhybudd yn cael ei gyhoeddi deuddydd cyn i ddiffoddwyr tân fynd ar streic oherwydd anghydfod rhyngddynt hwy â'r Llywodraeth ynglŷn â phensiynau.

Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hatgoffa na fydd yn bosib i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ymateb yn yr un modd ag arfer yn ystod y cyfnod o weithredu diwydiannol Nos Sadwrn 19eg Hydref - felly, atal sydd orau, dilynwch y rhagofalon syml sydd wedi eu cyhoeddi ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk i wneud yn siŵr eich bod chi a'n hanwyliaid yn cadw'n ddiogel.

Y ffordd orau i ddianc o dân yn ddiogel yn gwneud yn siŵr bod gennych larwm mwg gweithredol. I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein llinell ffôn 24 awr ar radffôn 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen