Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lleihad yn nifer y tanau bwriadol yn Ynys Môn

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn falch o gyhoeddi bod nifer y tanau bwriadol yn Ynys Môn wedi gostwng 34% yn dilyn eu gwaith gyda phartneriaid i leihau tanau maleisus ar yr ynys.

Daw'r llwyddiant hwn, hyd  fis Ebrill 2012, er gwaethaf y pryderon y byddem yn gweld cynnydd o ganlyniad i'r hinsawdd economaidd anodd.

Meddai Tony Matthews, Rheolwr Partneriaeth ar gyfer Ynys Môn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym wedi gweld cynnydd ardderchog ac mae ein gwaith ar y cyd wedi galluogi nifer o asiantaethau i'n cefnogi mewn ffyrdd arloesol a newydd er mwyn lleihau nifer yr achosion o losgi bwriadol."

Mae Awdurdodau Lleol,  systemau monitro CCTV, Grwpiau Troseddau ac Anrhefn yn yr ardal, Gwasanaeth Prawf Cymru, Timau Plismona yn y Gymdogaeth, y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol ac ymchwilwyr tanau arbenigol wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn.  

Fe ychwanegodd Tony: "Mae'r ynys yn adnabyddus am ei golygfeydd godidog ar yr hyd yr arfordir ac yng nghanol yr ynys lle ceir safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.  Mae llosgi bwriadol yn drosedd ddi-hid a dinistriol. Mae goblygiadau difrifol iawn i'r math yma o ymddygiad anghyfrifol ac y mae'n cael effaith negyddol ar bobl sydd yn byw, gweithio neu ymweld ag  Ynys Môn.

"Rwyf yn falch o weld bod y prosiectau i fynd i'r afael â'r broblem o losgi bwriadol ar hyd a lled y sir wedi bod yn effeithiol.  Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o losgi bwriadol ym mhob categori ac mae hyn yn galonogol iawn.  Ond, bydd ein hymdrechion yn parhau a bydd mentrau newydd megis Gwarchod Ysgolion, camerâu CCTV symudol a dulliau atal a chanfod gwahanol yn ein helpu i sicrhau lleihad pellach yn nifer yr achosion o losgi bwriadol."

Dylai pob busnes ystyried sut i reoli risgiau tân a thrwy gynllunio rhag tanau bwriadol gall busnesau amddiffyn eu hunain a'u staff rhag y dinistr a achosir gan y troseddau hyn.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn trin achosion o losgi bwriadol yn ddifrifol iawn ac rydym yn awyddus i dawelu meddwl ein trigolion ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i'r troseddwyr hyn a sicrhau eu bod yn cael eu herlyn.

Ceir rhagor o gyngor ar sut i amddiffyn eich hun a'ch busnes rhag tanau bwriadol ar wefan ddwyieithog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk .

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen