Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn cartref preswyl

Postiwyd

Galwyd diffoddwyr tân y bore yma at dân mewn cartref preswyl ym Mae Colwyn. Daeth diffoddwyr o Fae Colwyn, Conwy ac Abergele i ddiffodd y tân am 6.09am ddydd Mercher 11eg Gorffennaf yn yr eiddo ar Ffordd Ellesmere, Bae Colwyn.

 

Aethpwyd ag un wraig oedrannus i'r ysbyty a chafodd preswylydd arall driniaeth yn y fan a'r lle. Roedd y digwyddiad o dan reolaeth erbyn 8.10am. Achoswyd difrod gan dân a gwres i'r ystafell ble tarddodd y tân, yn ogystal â difrod gan fwg i lawr cyntaf ag ail lawr yr eiddo.

 

Mae ymchwiliad ar y gweill i weld beth oedd achos y tân.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen