Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Disgyblion o Fangor yn mynd i’r afael â thanau glaswellt drwy fod yn greadigol

Postiwyd

Cyflwynwyd gwobrau i ddau ddisgybl o Fangor a oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth dylunio poster a drefnwyd gan Dîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gogledd Cymru er mwyn mynd i'r afael â thanau glaswellt a thanau bwriadol.  

Fe dderbyniodd Kacey Louise Roberts o Ysgol Glancegin ac Ellis Carr o Ysgol Cae Top, y ddau ym mlwyddyn 5, iPod Shuffle ar ôl i'w posteri hwy, a oedd yn rhybuddio am beryglon cynnau tanau glaswellt bwriadol, ddod i'r brig.

Cafodd ysgolion cynradd o Fangor a Blaenau Ffestiniog eu gwahodd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn dilyn ymgyrch  a gynhaliwyd gan y Tîm Lleihau Tanau Bwriadol dros y Pasg mewn ymgais i leihau nifer y tanau glaswellt yn yr ardaloedd hyn.

Meddai Lynne Jones, Swyddog Lleihau Llosgi Bwriadol: "Yn gyntaf, hoffwn longyfarch Ellis a Kacey ar ennill y gystadleuaeth - roedd eu posteri'n hynod effeithiol ac roedd y ddau wedi meddwl yn galed am beryglon a sgil effeithiau cynnau tanau glaswellt bwriadol.

"Cafodd y gystadleuaeth a'r ymgyrch ei lansio ym Mangor a'r Blaenau oherwydd mai yn yr ardaloedd hyn y cafwyd y nifer uchaf o danau glaswellt bwriadol dros gyfnod y Pasg y llynedd.  Drwy wneud i bobl ifanc feddwl o oed cynnar iawn am beryglon a sgil effeithiau cynnau tanau bwriadol, rydym yn mawr obeithio y bydd pobl yn cymryd sylw o'n negeseuon.

"Drwy gynnwys y gymuned gyfan yn yr ymgyrch, rydym hefyd yn gobeithio y bydd pawb yn dod yn ymwybodol o'r canlyniadau ac yn sylweddoli bod angen y criwiau sydd yn cael eu hanfon i ddiffodd y tanau hyn mewn digwyddiadau eraill yn yr ardal."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen