Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr Tâ Yr Wydddgrug Yn Codi Arian at Achosion Da

Postiwyd

Neithiwr fe ddaeth elusennau lleol at ei gilydd yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug i dderbyn cyfran o'r £2,000 a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt flynyddol a gynhaliwyd ar gae Clwb Pêl Droed yr Wyddgrug ym mis Tachwedd.
Derbyniodd Ambiwlans Sant Ioan a Chanolfan Seren Wib, Ysbyty Maelor Wrecsam rodd o £1,000 yr un.

Dywedodd Peter Edwards, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug: "Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd help llaw wrth drefnu'r noson tân gwyllt y llynedd - bu i bawb weithio fel rhan o dîm ac roedd yn noson tan gamp i'r gymuned gyfan.

"Rydym yn falch ein bod yn gweithio gyda thrigolion y Gogledd i'w cadw mor ddiogel â phosibl. Mae gweld yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio yn y gymuned leol yn gwneud yr holl waith caled yn werth chweil."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen