Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Llifogydd a gwyntoedd cryfion

Llifogydd a gwyntoedd cryfion

Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru atgoffa pobl o'r cynghorion diogelwch canlynol yn ystod tywydd garw:

  • Gwnewch yn siwr bod gwrthrychau megis ysgolion, dodrefn gardd ac unrhyw beth arall wedi eu diogelu fel nad oes peryg iddynt gael eu chwythu drosodd yn y gwynt ac achosi difrod.

  • Caewch ddrysau a ffenestri yn dyn.

  • Os yn bosib, cadwch gerbydau yn y garej; neu fel arall peidiwch â'u parcio yn agos at goed, waliau neu ffensys.

  • Arhoswch yn y ty os yn bosib.

  • Os oes rhaid i chi fentro allan, peidiwch â cherdded neu ymochel dan goed.

  • Os achosir difrod peidiwch â mentro allan i atgyweirio'r eiddo.  Arhoswch hyd nes bod y tywydd wedi gostegu.

  • Gofalwch nad ydych yn cyffwrdd ceblau trydan/ffôn sydd wedi dymchwel yn y gwynt neu sydd yn hongian.

  • Byddwch yn gymydog da a gwnewch yn siwr bod cymdogion neu berthnasau bregus yn ddiogel.

  • Peidiwch â gyrru oni bai bod eich siwrne yn angenrheidiol. Os yw'r siwrne'n angenrheidiol edrychwch ar wefan Traffig Cymru a chynlluniwch eich siwrne ymlaen llaw.

  • Os oes yn rhaid i chi yrru, cadwch lygaid ar gyflwr y ffyrdd. Efallai bod pyllau dwr yn ddyfnach nac y maent yn edrych.  Os nad ydych yn siwr, peidiwch â mentro.

  • Arafwch a byddwch yn ymwybodol o wyntoedd o'r ochr - dylech fod yn hynod o ofalus os ydych yn tynnu cerbyd neu mewn cerbyd uchel.

  • Os digwydd i chi ddioddef llifogydd yn eich cartref  -  ewch i fan diogel, efallai i fyny'r grisiau.  Os ydych yn cymryd unrhyw feddyginiaeth ewch ag ef gyda chi.

  • Peidiwch â mynd allan o'r eiddo os yw'r llifddwr yn llifo'n gyflym y tu allan.

  • Arhoswch yn y ty a gwrandwch ar gyngor gan y gwasanaethau brys a gadwech yr eiddo os cynghorir chi i wneud hynny.

  • Symudwch eitemau angenrheidiol i fan uchel neu ewch â hwy i fyny'r grisiau.

  • Diffoddwch y cyflenwad nwy, trydan a dwr os oes peryg i ddwr ddod i mewn i'ch eiddo ac os yw'n ddiogel i chi wneud hynny. PEIDIWCH â chyffwrdd eitemau trydanol os ydych yn sefyll mewn dwr.

CYNGOR LLIFOGYDD

Os oes angen bagiau tywod arnoch chi, cysylltwch â'ch cyngor lleol yn hytrach na'r gwasanaeth tân ac achub.  Yn ystod cyfnodau prysur bydd Gwasanaeth Tân ac Achub rhoi blaenoriaeth i alwadau lle credir bod bywydau yn y fantol.

Am ragor o wybodaeth am rybuddion llifogydd a chyngor, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru - maent yn cadw llygaid barcud ar y tywydd ac yn rhoi cyngor ar rybyddion llifogydd a lefelau afonydd ar-lein.

Gall trigolion ffonio'r Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188 neu'r rhif cyflym 194902 am wybodaeth a chyngor i'r funud am lifogydd yn eu hardal hwy.

Mae rhybuddion llifogydd hefyd yn cael eu darlledu ar y teledu a'r radio. Ewch i Twitter Heddlu Gogledd Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl ffyrdd sydd wedi cau.

Edrychwch beth yw eich risg llifogydd

Darganfyddwch a oes risg o lifogydd yn eich ardal chi (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen