Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Archwiliadau Diogel ac Iach

Mae Archwiliad Diogel ac Iach yn wasanaeth am ddim sy’n cael ei ddarparu gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn cynnig gwybodaeth a chyngor ar ddiogelwch tân. Bydd ein staff yn cynnal asesiad ac yn cynnig cyngor ac ymyriadau wedi'u teilwra i helpu i leihau'r risg o dân yn eich eiddo.

Ydyn ni'n cynnig Archwiliad Diogel ac Iach i bawb?

Ni fydd pawb angen Archwiliad Diogel ac Iach wyneb yn wyneb. Rydym yn asesu pob atgyfeiriad i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hamser ar y bobl hynny sydd fwyaf mewn perygl o dân. Bydd ymweliad wyneb yn wyneb yn cael ei gynnig i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o dân. Os ystyrir eich bod yn risg isel, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i gynnig cyngor diogelwch tân.

Llenwch y ffurflen gais ar-lein neu ffoniwch ni ar 0800 169 1234 neu tectsiwch ar 0750 730 3678

  • Yn ystod archwiliad diogel ac iach wyneb yn wyneb yn eich eiddo, byddwn yn:
  • Asesu diogelwch tân ym mhob ystafell yn eich eiddo.
  • Adnabod a gwneud i chi fod yn ymwybodol o'r risgiau tân posibl yn eich cartref.
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth i'w wneud er mwyn lleihau neu atal y risgiau hyn.
  • Trafodwch drefn gyda'r nos a fydd yn helpu i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel yn ystod y nos.
  • Trafod cynllun dianc.
  • Sicrhau fod gennych larwm mwg sy’n gweithio, ar bob llawr o'ch eiddo a gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i'w brofi a'i gynnal.
  • Asesu'r angen am ymyriadau di-dâl ychwanegol i leihau'r risg o dân yn eich cartref.
  • Eich cyfeirio chi (gyda'ch caniatâd) at asiantaethau a allai gynnig cymorth pellach i'ch cadw'n ddiogel ac yn iach.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen